Ymchwilio ein Coedwigoedd
Mawrth 2011
Lansiad Prosiect Archwilio Natur yn Sain Ffagan
Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2, byddwn yn lansio ein project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y lansiad am 11am yn Oriel 1, ac yn dilyn y lansiad byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau natur trwy’r dydd.
Bydd cyfle i ymweld â’n cuddfan natur newydd, ble bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu i adnabod y gwahanol adar sy’n ymweld â ni. Hefyd, bydd cyfle i ddarganfod sut i ddenu gwahanol adar i’ch gardd chi, er mwyn eu gwylio o’ch cartref.
Mi fydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn ardal y Tanerdy. Mae’r Tanerdy’n gartref i amrywiaeth fawr o anifeiliaid, o’r fadfall dd?r gribog i’r ystlum pedol lleiaf prin. Dewch draw i ddarganfod mwy am y creaduriaid diddorol hyn. Byddwn hefyd yn pori’r pyllau d?r a hela bwystfilod bach, dewch i ddarganfod mwy gyda ni!
Fel rhan o’r project Archwilio Natur rydyn ni wedi cynhyrchu dwy ffilm natur gafodd eu ffilmio yma yn yr amgueddfa. Mae’r ffilm gyntaf yn dangos yr holl amrywiaeth o fyd natur rydym yn lwcus i’w chael yma, ac mae’r ail ffilm yn canolbwyntio ar yr ystlum pedol lleiaf. Mwynhewch!
Ydi'r gwanwyn wedi cyrraedd?
[delwedd: ]
Neis i weld y Cennin Pedr yn blodeuo ar ddydd Gwyl Dewi!
[delwedd: ]
Mae'r eirlys wedi bod yn blodeuo am rai wythnosau bellach.
[delwedd: ]
Gyda'r crocysau yn dechrau blodeuo, mae 'na blanced o borffor!
[delwedd: ]
Edrychwch ar y collen. Gallwch weld pam maent yn ei alw yn 'cynffonnau wyn bach!
Yn gyntaf, Dydd Gwyl Dewi Hapus i bawb! Mae mis Mawrth wedi cyrraedd, ond ydi’r gwanwyn ar y ffordd? Es am dro bore ‘ma o amgylch yr amgueddfa i weld os oedd golwg o’r gwanwyn. Dyma beth wnes i ddarganfod…
categorïau
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
Linking Natural History Collections in Wales
Ymchwilio ein Coedwigoedd
cofnodion diweddar
Museum collections in Wales – Knowledge is Preservation