SCAN
Rhagfyr 2010
Nadolig Llawen oddi wrth Athro�r Ardd
[delwedd: ]
Athro’r Ardd yn gwisgo’i het Nadoligaidd.
Dim ond wythnos arall o ysgol cyn y Nadolig!
Hoffwn i ddiolch i’r holl wyddonwyr gwych sydd wedi bod yn cofnodi’n ofalus ers y 1af o Dachwedd – dyma’r wythnos gofnodi olaf cyn y Nadolig. Mae wedi bod yn aeaf oer iawn i fod allan yn cofnodi, ac rydych chi i gyd wedi gwneud yn arbennig! Diolch byth, mae ychydig yn gynhesach yr wythnos hon, felly ddylai’r cofnodi ddim oeri’r bysedd cymaint!
Mae llawer o ysgolion wedi dweud eu bod nhw’n poeni am effaith posib y rhew ar eu bylbiau:
"Gan fod y tywydd mor oer, rydyn ni’n poeni na fydd ein planhigion yn byw drwy’r gaeaf " Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair.
"Mae wedi bod yn oer iawn. Fydd y bylbiau’n tyfu?" Ysgol Porth y Felin.
Rydw i wedi cael sgwrs dda gyda’n Prif Arddwr ni, Juliet, sy’n gweithio yn Sain Ffagan ac rydyn ni’n dau’n cytuno y dylai’r bylbiau fod yn iawn. Bydd rhai bylbiau’n dioddef oherwydd y rhew, ond mae bylbiau cennin pedr a chrocysau yn ddigon cryf - felly dylai’r rhan fwyaf fod yn iawn!
Ar yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r bylbiau wedi’u cuddio o dan y ddaear, felly dyw eira ac iâ ddim mor beryglus ac y gall fod yn y gwanwyn pan fydd y blodau a’r blaenau ifanc i’w gweld. Felly, croesi bysedd :-)
Mae rhagor o gwestiynau ac atebion isod.
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda!
Athro’r Ardd
Cofnod oeraf gan ysgol hyd yn hyn!
Yr wythnos hon, cofnododd Ysgol Deganwy: '11 gradd o dan y rhewbwynt ddydd Llun. Y diwrnod oeraf erioed yn ysgol Deganwy!' http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2968/ Waw - oer iawn! Gobeithio bod eich ystafelloedd dosbarth chi'n gynhesach. Dyna'r tymheredd isaf erioed i ysgol gofnodi gyda ni. Ydy'ch ysgol chi wedi bod yn oerach fyth? Dywedwch wrtha i os yw e! Athro'r Ardd
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr