Ymchwilio ein Coedwigoedd
Tachwedd 2010
Ymwelwyr i'r cuddfan adar
Wrth i adar y goedwig dod yn gyfarwydd gyda'i amgylchedd newydd, mae'r bwydwyr tu fas i'r cuddfan wedi bod yn brysur dros ben. Ar adegau mae'r bwydwyr bron wedi ei orchuddio gan amryw o titws, sy'n cael ei ymuno gan telor y coed, ji-bincs a robin goch achlysurol. Pob hyn a hyn mae cnocell fraith fwyaf yn ymddangos hefyd, yn gorfodi i'r adar llai cuddio am munud neu ddwy.
Mae'r cuddfan nawr bron iawn yn barod i agor i'r cyhoedd, dal y bwriad i agor cyn diwedd y mis. Os ydych yn meddwl am ymweld a'r cuddfan, cofiwch i wisgo rhywbeth gynnes, mae hi gallu bod yn oer uffernol ar adegau. Hyd yn oed yn well, dewch a fflasg o de gyda chi!
Mae'r cuddfan yn lle gwych i tynnu lluniau o bywyd gwyllt, dyma rhai rydyn ni wedi tynnu o adar gwahanol yn bwydo tu fas i'r cuddfan.
Datblygiadau yn y Goedwig!
Dyma fy blog cynta ers cael fy apwyntio fel Hwylusydd Archwilio Natur yma yn Amgueddfa Sain Ffagan. Prif pwrpas y swydd yw hybu ymwelwyr i’r Sain Ffagan i gymryd sylw ar y wledd o bywyd nature sy’n byw o fewn yr amgueddfa.
Fel rhan o’r prosiect, mae ‘na wedi bod rhai datblygiadau yn y goedwig yn Sain Ffagan, ger llwybr y goedwig. Ger un o’r paneli gwybodaeth rydym newydd ychwanegu troellwr caneuon adar! Wrth dewis yr aderyn rydych am glywed a troi’r braich ar y troellwr, mae’n bosib i wrando ar 8 aderyn sy’n byw yn ein goedwig. Mae’n ffordd wych o ddysgu caneuon yr adar wahanol!
Rydym hefyd wedi adeiladu cuddfan adar yn y goedwig. Mae’r cuddfan yn lle ffantastic i ymlacio tra’n gwylio adar yn bwydo ar ein gorsaf bwydo. Mor belled rydym wedi nodi o leiaf 9 aderyn wahanol yn ymweld, o’r titw tomos las i cnocell y coed. Wrth gwrs, gan bo ni yn y goedwig, mae digon o wiwerod yn dod i ymweld hefyd!
Mi ddylai’r cuddfan bod ar agor i’r cyhoedd yn fuan, gobeithio erbyn diwedd y mis! Mae hi wir yn lle delfrydol i ymweld â thermos o de ac i ymlacio. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar paneli gwybodaeth i’r cuddfan, gobeithio bydd rhain yn barod erbyn y gwanwyn.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am ddefnydd y cuddfan neu hyd yn oed awgrym am enw, plis rhowch wybod i mi trwy sylwadu. Cadwch lygad ar y blog ‘ma am wybodaeth ar ddigwyddiadau a weithgareddau nature sydd i’w ddod!
Mae’r prosiect wedi’u ariannu gan Biffaward trwy’r Cronfa Cymunedau Tirlenwi a Legal and General.
categorïau
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
Linking Natural History Collections in Wales
Ymchwilio ein Coedwigoedd
cofnodion diweddar
Museum collections in Wales – Knowledge is Preservation







