Addysg
Gorffenaf 2010
Bywyd newydd i'r tŷ crwn
[delwedd: ]
Dathlu gyda'r ymwelwyr
[delwedd: ]
Beth gafodd eu claddu ger y fynedfa? Cewch weld yr wythnos nesaf.
[delwedd: ]
Y tan cyntaf yn y Moel y Gaer newydd
[delwedd: ]
Croeso i chi - yr ymwelwyr cyntaf i fy nghartref newydd.
Pwy sy'n gwenu heddiw ar y t? crwn newydd? Mae Dafydd a'r tim adeiladu yn mwynhau ffrwyth eu llafur wedi misoedd o waith caled. Wrth ddathlu agoriad Moel y Gaer mae pawb wedi bod yn eu llongyfarch am eu gwaith. Diolch i bawb a ddaeth i ddathlu gyda ni ar yr achlysur arbennig hwn. Rwyf wedi mwynhau'n fawr trafod y gwaith gyda chi i gyd.
Agoriad Swyddogol Tŷ Crwn
[delwedd: Ian Danile y tu allan i Moel y gaer]
Fi y tu allan i Moel y Gaer ar ei newydd wedd
[delwedd: To Gwellt wedi ei orffen]
Y to gwellt wedi ei orffen
[delwedd: Creu agorfa yn y to ]
Creu agorfa yn y to
[delwedd: Bwndeli cyrs]
Gall y bwndeli cyrs gael eu symud fel eu bod nhw'n cynorthwyo gydag awyru'r adeilad
Mae'r gwaith bron ar ben a'r dathlu ar fin dechrau! Fel y gallwch weld mae'r to wedi ei gwblhau ac rydym wedi arbrofi trwy greu twll bach ar gyfer y mwg. Gobeithio y bydd yr arbrawf yn llwyddiannus - amser a ddengys! Rwyf angen gwneud rhywfaint o wyngalchu ar y waliau mewnol ac yna fe fydd wedi ei gwblhau. Byddwn yn dathlu trwy gynnal agoriad swyddogol ar ddydd Sadwrn os ydych o gwmpas dewch draw am 3 o'r gloch i ymuno gyda ni yn y 'Pentref Celtaidd'. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u diddordeb dros y misoedd diwethaf ac yn arbennig i'r gwirfoddolwyr Dylan Hammond a Lauren Parfitt.
categorïau
Addysg
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr