Eglwys Sant Teilo
Mehefin 2010
Cleisie, a Lleisie Canol Oesol
Mae'r wythnos hon wedi bod yn un brysur iawn yn Eglwys Teilo Sant, a 'dyn ni wedi cael amser gwych. Dyn ni ddim wedi gorffen eto, a bydd drama Y Gwr Cadarnyn cael ei pherfformio yn iard yr Eglwys yfory. Roedd y gwasanaeth Tuduraidd yn lwyddiant, a daeth pobol o bob pegwn o'r byd i gymryd rhan.
Gwnaethom dair 'fersiwn' o'r gwasanaeth, a ffilmiwyd rhan helaeth ohono. Cadwch lygad ar y blog 'ma - fe fydda i'n rhoi rhan o'r fideo yma i'w weld cyn gynted ag y bo'r modd.
Roedd ddoe yn ddiwrnod arbennig iawn, am i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yn y gwasanaeth. Daeth rhai o'r ardal ble'r adeiladwyd yr Eglwys yn wreiddiol, ger Pontarddulais. Roedd eraill yn Gatholigion, oedd yn gyfarwydd â rhai rhannau o'r ddefod, ond wedi'u syfrdanu ar ba mor wefreiddiol oedd cymryd rhan, yn enwedig ym mhresenoldeb y murluniau.
Roeddwn i yn fy ngwisg Duduriadd, nid er mwyn creu sioe, ond i weld pa mor gyfforddus y byddai hi i gymryd rhan mewn gwasanaeth Tuduraidd yn y wisg berthnasol (h.y. un â chorset bren ynddi). Roedd o leia 20 munud o benglinio isel (hynny yw, penglinio ar lawr carreg, gyda'ch trwyn mor agos i'r llawr â sy'n bosibl. Ro'n i'n teimlo y byddwn yn ddeall y ddefod yn well petawn i'n cymryd rhan. Roedd yn sioc pan sylwais ei bod lawer yn haws yn y wisg Duduraidd nag yn fy nillad bob dydd. Mae Margery Kempe, dynes a oedd yn addoli yn y 15ed ganrif, yn sôn sut y gallwch greu clustog i benelinio arni gan rowlio blaen eich sgert i fyny. Roedd ychydig yn fwy cyfforddus, ond dwi dal wedi cleisio'n biws!
Yn fuan wedi i'r gwasanaeth ddod i ben, daeth llwyth o bensiynwyr o Dde-ddwyrain Llundain i mewn, a dechrau canu 'We'll keep a welcome in the hillside' yn ddi-rybudd. Roedd yr awyrgylch ddifrifol, dawel wedi'i thrawsnewid yn llwyr - profiad swreal iawn oedd profi'r ddau beth yn olynol. Fe dynnais ffilm fer - efallai y dylwn geisio creu mashupohonynt!
Roedd y gwasanaeth ei hun yn croesawu penydwyr yn ôl i'r Eglwys a'r gymuned. Gweithiodd y clerigwyr, yr academyddion, cantorion, anthropolegwyr a'r curaduron yn galed iawn ar y prosiect, a rwy'n gobeithio iddyn nhw gael boddhad o gymeryd rhan, ac eu bod wedi dysgu cymaint â fi! Byddaf yn cael seibiant bach i ddad-Dudurio (h.y. trip i Ynys y Barri), ac yna'n dechrau trafod y gwahanol bethau y byddwn ni'n gwneud gyda ffilm y gwasanaeth. Oes gennych chi gynnig - beth hoffech chi ei weld?
Gwahoddiad i Wasanaeth Lladin yn Eglwys Teilo Sant
Mae'r nifer o lefydd sydd ar gael yn fach, felly gaf fi ddechrau gan argymell eich bod yn galw'r swyddfa addysg yn Sain Ffagans ar (029) 20 57 3424 i archebu lle. Bydd y gwasanaeth am 11.00 ar y 24ain o Fehefin.
Hwn fydd y gwasanaeth Lladin cyntaf yn hanes Eglwys Teilo Sant ar y safle hwn. Cyn ei symud o ardal Pontarddulais, byddai'r math hwn o wasanaeth wedi bod yn gyffredin yn oes y Tuduriaid. Mae'r gwasanaeth ei hun ar agor i'r cyhoedd, ond mae'n angenrheidiol eich bod yn bwcio lle. Mae'n cael ei gynnal gan arbenigwyr sy'n dod i'r amgueddfa o bedwar ban byd i gwrdd a thrafod hanes Canoloesol. Y nhw sy'n gweithio gyda llawysgrifau, archaeoleg a phensaernïaeth y cyfnod i greu darlun mwy cyflawn o fywyd tua 500 mlynedd yn ôl. Fe fyddwn ni yn arbrofi gyda'u damcaniaethau, a mae croeso i chi ymuno â ni!
Mewn ffordd, bydd cynnal y gwasanaeth yn ffordd o brofi os ydy'n gwaith ni yn ail-adeiladu Eglwys Teilo Sant yn gywir. Byddwn hefyd yn gallu helpu'r ymchwilwyr i brofi, neu gwrth-brofi, eu damcaniaethau nhw am sut oedd y gwasanaeth yn gweithio. Yn anffodus, does dim Tuduriaid o'r cyfnod ar ben arall y ffôn, felly wrth geisio arbrofion fel hyn y byddwn yn cael darlun cliriach o fywyd pobl yn y Canol Oesoedd. Tan i fi adeiladu peiriant amser, dyma'r peth agosa' gewch chi...
categorïau
Eglwys Sant Teilo
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







