Rhagfyr 2009
Icy St Fagans
[delwedd: ]
St Fagans:National History Museum has been closed today due to the poor weather conditions. I went out for a walk to take some photographs and it's very slippery but also so pretty!
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Calennig
[delwedd: ]
Ymunwch â ni ar Ragfyr 30 a 31 i greu eich Calennig eich hun, cyn ymuno mewn sesiwn o ganu am 2 o'r gloch! Hwre!
Cert Celf Nadolig
Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn ar y cert celf yn ddiweddar yn gwneud papur lapio, angylion allan o blatiau papur, cardiau Nadolig, sêr meddal ac addurniadau. Gwnaeth pawb a gymerodd rhan bethau tlws dros ben! Yn anffodus anghofiais ddod â chamera i mewn i dynnu lluniau, felly os ydych wedi addurno'r ty efo'ch gwaith o'r cert celf, danfonwch llun ataf!
Nadolig Llawen a gwelai chi gyd yn y flwyddyn newydd!
Pwy sy'n dyfod dros y bryn â chennin Pedr yn ei sach?
[delwedd: ]
Ysgol Gynradd Eutun, Wrecsam
[delwedd: ]
Athro'r Ardd
[delwedd: ]
Llun gan yr Athro'r Ardd. Eginyn cenhinen Bedr gynnar (5 Rhagfyr 2009)
Nadolig llawen cyfeillion y bylbiau
Mae nifer ohonoch wedi gweld egin newydd a hynny yn bell cyn y Nadolig. Yr wythnos hon daeth f'egin i hefyd. Maent yn 2cm o uchder a gallwch eu gweld yn y llun.
Mae'r hydref eleni llawer yn dwymach na'r llynedd. Mae'r tymheredd ar gyfartaledd yng Nghymru ar gyfer mis Hydref a Thachwedd bron 1.5 gradd yn dwymach nag oedd yn 2008. Fel canlyniad mae llawer o gennin Pedr wedi dechrau tyfu'n barod. Dywedodd ffermwyr Really Welsh: 'Gwelsom lawer o egin cennin Pedr yn dechrau tyfu. Mae'r tywydd twym a gwlyb yn golygu bydd ein cennin Pedr yn barod ar gyfer y siopau yn y gwanwyn. Efallai bydd y blodau'n agor ychydig o wythnosau'n gynharach na'r llynedd'.
Os bydd rhew adeg y gwanwyn sy'n dod gall fod yn niweidiol i'r cennin Pedr a ddechreuodd dyfu. Ond mae'r cennin Pedr yn wydn iawn a byddent mwy na thebyg yn blodeuo'n hardd. Bydd yn ddiddorol i weld a fydd egin cynnar yn tyfu'n flodau cynnar. Daliwch i ddisgwyl.
Diolch i chi wyddonwyr ifainc am gadw cofnodion mor gywir o'r tywydd. Maent yn ein helpu i ddeall y tymhorau a byd natur. Rhowch wybod os gwelwch unrhyw blanhigion eraill yn tyfu'n gynnar.
Peidiwch ag anghofio mai'r wythnos hon y bydd cannoedd o wyddonwyr ac arweinyddion y byd yn cyfarfod yn Nenmarc i geisio dod i gytundeb i achub y blaned. Un o'r cyfarfodydd pwysicaf yn y byd o bosib. Ewch i newsround am y newyddion diweddaraf a gadewch i mi wybod beth yw'ch barn.
Yr wythnos nesaf fydd yr wythnos olaf i'w chofnodi cyn y Nadolig wedyn gallwch fwynhau eich gwyliau.
Mwynhewch y Nadolig!
Athro'r Ardd
Cert Celf - 5,12,19,21,22,23 Rhagfyr
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Dewch draw Ddydd Sadwrn yma i ymweld â’r cert celf. Bydd y cert yn Oriel 1, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, rhwng 11-1 a 2-4. Byddwn yn paratoi at y Nadolig drwy greu papur lapio, tagiau ac addurniadau, a bydd taflenni lliwio i’r rhai bach.
categorïau
Pob cofnod
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr