Rhagfyr 2009
Icy St Fagans
St Fagans:National History Museum has been closed today due to the poor weather conditions. I went out for a walk to take some photographs and it's very slippery but also so pretty!
Calennig
Ymunwch â ni ar Ragfyr 30 a 31 i greu eich Calennig eich hun, cyn ymuno mewn sesiwn o ganu am 2 o'r gloch! Hwre!
Cert Celf Nadolig
Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn ar y cert celf yn ddiweddar yn gwneud papur lapio, angylion allan o blatiau papur, cardiau Nadolig, meddal ac addurniadau. Gwnaeth pawb a gymerodd rhan bethau tlws dros ben! Yn anffodus anghofiais ddod â chamera i mewn i dynnu lluniau, felly os ydych wedi addurno'r ty efo'ch gwaith o'r cert celf, danfonwch llun ataf!
Nadolig Llawen a gwelai chi gyd yn y flwyddyn newydd!
Pwy sy'n dyfod dros y bryn â chennin Pedr yn ei sach?
Nadolig llawen cyfeillion y bylbiau
Mae nifer ohonoch wedi gweld egin newydd a hynny yn bell cyn y Nadolig. Yr wythnos hon daeth f'egin i hefyd. Maent yn 2cm o uchder a gallwch eu gweld yn y llun.
Mae'r hydref eleni llawer yn dwymach na'r llynedd. Mae'r tymheredd ar gyfartaledd yng Nghymru ar gyfer mis Hydref a Thachwedd bron 1.5 gradd yn dwymach nag oedd yn 2008. Fel canlyniad mae llawer o gennin Pedr wedi dechrau tyfu'n barod. Dywedodd ffermwyr Really Welsh: 'Gwelsom lawer o egin cennin Pedr yn dechrau tyfu. Mae'r tywydd twym a gwlyb yn golygu bydd ein cennin Pedr yn barod ar gyfer y siopau yn y gwanwyn. Efallai bydd y blodau'n agor ychydig o wythnosau'n gynharach na'r llynedd'.
Os bydd rhew adeg y gwanwyn sy'n dod gall fod yn niweidiol i'r cennin Pedr a ddechreuodd dyfu. Ond mae'r cennin Pedr yn wydn iawn a byddent mwy na thebyg yn blodeuo'n hardd. Bydd yn ddiddorol i weld a fydd egin cynnar yn tyfu'n flodau cynnar. Daliwch i ddisgwyl.
Diolch i chi wyddonwyr ifainc am gadw cofnodion mor gywir o'r tywydd. Maent yn ein helpu i ddeall y tymhorau a byd natur. Rhowch wybod os gwelwch unrhyw blanhigion eraill yn tyfu'n gynnar.
Peidiwch ag anghofio mai'r wythnos hon y bydd cannoedd o wyddonwyr ac arweinyddion y byd yn cyfarfod yn Nenmarc i geisio dod i gytundeb i achub y blaned. Un o'r cyfarfodydd pwysicaf yn y byd o bosib. Ewch i newsround am y newyddion diweddaraf a gadewch i mi wybod beth yw'ch barn.
Yr wythnos nesaf fydd yr wythnos olaf i'w chofnodi cyn y Nadolig wedyn gallwch fwynhau eich gwyliau.
Mwynhewch y Nadolig!
Athro'r Ardd
Cert Celf - 5,12,19,21,22,23 Rhagfyr
Dewch draw Ddydd Sadwrn yma i ymweld â’r cert celf. Bydd y cert yn Oriel 1, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, rhwng 11-1 a 2-4. Byddwn yn paratoi at y Nadolig drwy greu papur lapio, tagiau ac addurniadau, a bydd taflenni lliwio i’r rhai bach.
categorïau
Pob cofnod
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







