SCAN
Tachwedd 2009
Egin yn barod?
Gofynnodd disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd: 'Pryd bydd y bylbiau'n egino?'
Fel arfer 'nid tan ar ôl Nadolig' fyddai f'ateb ond mae rhai wedi dechrau egino'n barod.
Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Pentre-poeth yn Abertawe: 'Cawsom syndod o weld egin ac erbyn hyn gwelsom rai yn y gwelyau blodau. Dyma lun i chi eu gweld.'
O edrych ar y llun er nad wyf gant y cant yn si?r maent yn ymddangos fel egin cennin Pedr. Edrychwch ar fy llun o'r llynedd - beth ydych chi'n ei feddwl?
Gadewch sylwadau os gwelwch unrhyw egin cynnar. Danfon lluniau at scan@aocc.ac.uk
Diolch, Athro'r Ardd
Miloedd o wyddonwyr ifainc yn astudio'r newid yn yr hinsawdd
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda 3,600 o wyddonwyr ifainc i archwilio a deall y newid yn yr hinsawdd.
Yn ddiweddar mae bylbiau, potiau ac adnoddau wedi cyrraedd ysgolion a phobl sy'n cael eu haddysgu gartref ledled Cymru yn barod am y diwrnod plannu ar 20 Hydref. Mae rhai ysgolion wedi anfon ffotos hyfryd atom gan ddweud cymaint o gyffro oedd ymhlith y plant.
O nawr tan ddiwedd Mawrth 2010 bydd pob gwyddonydd ifanc yn cofnodi'r tywydd a dyddiadau blodeuo'r bylbiau cennin Pedr a saffrwm fel rhan o astudiaeth hir dymor o effeithiau newidiadau yn y tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn. Dechreuodd yr astudiaeth yn 2005 a gobeithio bydd yn para am flynyddoedd lawer i ddod. I weld y canlyniadau hyd yn hyn neu i ymgofrestru am y flwyddyn nesaf ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau
Bydd pob disgybl yn gweithio drwy dasgiau Athro'r Ardd cyn cael Tystysgrif Gwyddonydd Gwych. Bydd yr ysgol orau'n ennill taith i fferm cennin Pedr y cwmni Really Welsh a Gwarchodfa Natur Cynffig. Rhodd ar gyfer yr arbrawf hwn gan y cwmni Really Welsh yw'r holl gennin Pedr sydd wedi'u tyfu yng Nghynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Cadwch lygad barcud ar y blog i weld adroddiadau ac arsylliadau'r ysgolion neu yn y gwanwyn cewch weld y dyddiadur â lluniau.
Beth am anfon cwestiwn at Athro'r Ardd? Byddai wrth ei fodd yn clywed gennych.
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







