Ymchwilio ein Coedwigoedd
Ionawr 2009
Bwydwch yr adar!
Mae’r dyddiau’n fyr, mae’r glaw yn oer, mae rhew ar y dail ac mae’r gwynt yn rhewi ’nhrwyn; mae’n rhaid ei bod hi’n fis Ionawr! Ond mae’r oerfel yn cael effaith ar greaduriaid eraill heblaw am bobl. Mae’n rhaid i adar fwyta llawer mwy yn ystod misoedd y gaeaf i gadw rhag rhewi i farwolaeth yn y nos. Edrychwch ar y i weld pa mor brysur yw hi!
Mae’r gaeaf yn amser gwych i ddenu adar i’ch gardd gan eu bod yn llai swil wrth ddod i gael bwyd. Efallai y byddwch chi’n denu rhai rhywogaethau nad ydynt yn ymweld â bwydwyr gardd fel arfer.
Mae yna gyngor ardderchog am ddenu adar i’ch gardd ar wefan yr RSPB, a thra eich bod chi yno beth am ymuno â Gwylfa Adar yr Ardd y penwythnos hwn? Gallwch gymryd rhan yn arolwg adar mwya’r byd o gysur eich ystafell fyw!
categorïau
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
Linking Natural History Collections in Wales
Ymchwilio ein Coedwigoedd
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







