Hydref 2008
Newid yn yr hinsawdd: beth sy'n digwydd?
[delwedd: Climate Change]
Pobl yw’r ‘bygythiad mwyaf i’r byd'
Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd. Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol.
Beth ydych chi’n meddwl y dylen ni fod yn ei wneud i daclo’r newid yn yr hinsawdd?
Pa gwestiynau sydd gennych chi?
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth. Y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.
Mae Amgueddfa Cymru a Science Shops Wales yn mynd ag arddangosfa a sgyrsiau ar daith i dynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd. I gael rhagor o wybodaeth,
e- scan@amgueddfacymru.ac.uk
Ffeindio Ffwng
Blog y Bwydydd Adar
Helo ’na bawb! Gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwylio’r camera natur nawr ei fod yn gweithio’n iawn. Mae hi wastad yn brysur wrth y bwydwr adar ar y foment, felly mae yna digon i’ch diddori (neu os ’da’ch chi fel fi, i dynnu’ch sylw bant o’r gwaith!) am oriau. Mae’r bwydydd yn boblogaidd iawn gyda’r titw mawr, y titw las a’r titw penddu yn ogystal â’r llinos werdd, y ji-binc ac aderyn y to. Mae telor y cnau a’r robin goch hefyd yn ymweld yn rheolaidd ond anaml y ceir ymweliad gan y nico neu goch y berllan. Mae’r bwydydd hefyd yn denu’r gwiwerod lleol, ac er eu bod nhw’n ychydig o boendod i’r adar mae’n eithaf difyr gwylio eu hymdrechion acrobatig i gyrraedd y bwyd!
categorïau
Pob cofnod
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr


















