Ymchwilio ein Coedwigoedd
Hydref 2008
Ffeindio Ffwng
Blog y Bwydydd Adar
Helo ’na bawb! Gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwylio’r camera natur nawr ei fod yn gweithio’n iawn. Mae hi wastad yn brysur wrth y bwydwr adar ar y foment, felly mae yna digon i’ch diddori (neu os ’da’ch chi fel fi, i dynnu’ch sylw bant o’r gwaith!) am oriau. Mae’r bwydydd yn boblogaidd iawn gyda’r titw mawr, y titw las a’r titw penddu yn ogystal â’r llinos werdd, y ji-binc ac aderyn y to. Mae telor y cnau a’r robin goch hefyd yn ymweld yn rheolaidd ond anaml y ceir ymweliad gan y nico neu goch y berllan. Mae’r bwydydd hefyd yn denu’r gwiwerod lleol, ac er eu bod nhw’n ychydig o boendod i’r adar mae’n eithaf difyr gwylio eu hymdrechion acrobatig i gyrraedd y bwyd!
categorïau
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
Linking Natural History Collections in Wales
Ymchwilio ein Coedwigoedd
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr


























