Archwilio Gwely'r Môr
Ionawr 2008
Hynt a helynt arddangosfa Archwilio Gwely'r Môr!
Ionawr 2008 - Hynt a helynt arddangosfa Archwilio Gwely'r Môr!
Symudodd yr arddangosfa i Amgueddfa Stêm Kew Bridge yn Brentford, Middlesex ar 7 Ionawr er gwaetha'r gwyntoedd cryf yn chwythu'r fan dros bob man! Bydd yr arddangosfa yno rhwng 9 Ionawr a 2 Mawrth 2008.

Archwilio Gwely'r Môr yn estyn ymhellach!
Bu Archwilio Gwely'r Môr yn bresennol yng Nghynhadledd y Gymdeithas er Addysgu Gwyddoniaeth yn Lerpwl ddechrau Ionawr. Denodd y project gryn frwdfrydedd gan athrawon a'r gobaith yw y bydd llawer mwy o ysgolion yn defnyddio'r adnoddau yn y dosbarth.







