Yr Amgueddfa ar Waith
Edrychwch ar rai o'r straeon a adroddir gan ein casgliadau.
Calon yr Amgueddfa yw ei chasgliadau. Drwy archwilio'r casgliadau rydym yn cryfhau'n cyfraniad tuag at werthfawrogiad byd-eang o Gymru, a threftadaeth a diwylliant ei phobl. Mae cadw a gofalu am y casgliadau hyn yn ein galluogi i barhau i fod yn amgueddfa fyw, ac i weithradu fel trysorfa swyddogol Cymru ar gyfer gwrthrychau o'r gorffennol a'r presennol.
Edrychwch ar rai o'r straeon a adroddir gan ein casgliadau...
Gorffenaf 2007
Mae mis yn amser hir...
Mehefin 18 - Cyfarfod gyda'r Llyfrgell Genedlaethol. Fe drafodwyd casglu gwefannau, rhaglenni teledu a recordiau, ymysg pethau eraill (effemera, sut i gofnodi Youtube ayb). Diddorol iawn, a diolch o galon i bawb yn y Llyfrgell am y croeso.
Mehefin 19 a 20 - Gweithdy Storïau Digidol gyda'r BBC yn Aberystwyth. Techneg defnyddiol ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Ewch i'r wefan www.bbc.co.uk/wales/capturewales/
Mehefin 21 - Colli Cynhadledd Stori Ddigidol oherwydd salwch
Mehefin 23 - Priodas Deuluol
Mehefin 24 i Orffennaf 1 - Gwyliau yng Nghaernarfon
Gorffennaf 6 a 7 - Cynhadledd Haness llafar yn Llundain. Eto, techneg sy'n ddefnyddiol dros ben ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes.
Gorffennaf 12 (fory) - Cwrdd gyda Gr?p Hanes Johnstown yn Wrecsam i drafod curadu'r Ddresel Gymunedol nesaf.
Os hoffai rhywun wybod mwy am y rhain, yna cysylltwch â mi. Yn y blog gwreiddiol, llwyddais i sôn am Glyn Wise, Big Brother, amgueddfa rithiol yn Second Life, enw Cymraeg i Facebook (Gweplyfr) a nifer o bethau hynod ddiddorol tebyg. Ond dyna fo, dyna pa mor anwadal yw'r ether.







