Rydych chi yn: Hafan > Blog

Casglwyr a Chasgliadau

Hydref 2007

Ha bach Mihangel...

Postiwyd gan Owain Rhys ar 17 Hydref 2007
Newydd sgwennu llith yn ateb ymholiad pbhj ar gyfer fersiwn Saesneg y blog yma. Dwi ddim am ei ailadrodd i gyd yma - roedd yn gwestiwn gan berson unieithog yn amlwg. Roedd yn gofyn beth oedd y tebygrwydd rhwng Cymraeg a British Sign Language (gweler y blog diwethaf). Os oes diddordeb, cliciwch ar English ar top y ddalen.

Daeth cwestiwn lot neisiach gan Sabrina Rochemont yn gofyn sut allai fy helpu. Wel, os oes gan rywun farn ar sut mae casglu'r 'Cyfoes', buaswn yn falch iawn cael clywed gennych. A ddylai amgueddfeydd gasglu pob teclyn electroneg dan haul, neu dim ond y rhai sydd a stori ddiddorol? Er enghraifft, rhoddodd rhywun ZX Spectrum, yn ei focs, bron fel newydd i mi y diwrnod o'r blaen. Mae hyn yn anarferol iawn, gan fod llawer o wrthrychau'n cael eu gwerthu ar e-bay y dyddiau yma. Ond oes cysylltiad â Chymru? Oes. Oes stori ddiddorol? Oes. Ydyn ni'n debygol o'i arddangos? Ydyn. Ac yn y blaen - mae'n rhaid cyfiawnhau casglu ar sawl lefel wahanol, yn bennaf oherwydd diffyg lle.

Agwedd arall o'r swydd yw delio â chymunedau - mae holl ethos amgueddfeydd yn nnewid - dim adeilad i arddangos trysorau a ddygwyd ydyn nhw bellach, ond canolfannau addysg a hwyl i'r gymdeithas ehangach. Ond wrth gydweithio, oes peryg bod yn nawddoglyd neu docenistic?

Reit, i orffen, dyma, yn fras, beth ydw i wedi bod yn ei wneud dros y mis diwethaf: wedi cael cyfarfodydd blaenorol i drefnu'r Arddangosfa Bop yn 2009; bues mewn cyfarfod yn y Trallwng i geisio ffurfio polisi Casglu Cyfoes ar gyfer holl amgueddfeydd Cymru; mynychais fy ail weithdy Straeon Digidol er mwyn dysgu mwy am sut i weithio gyda chymunedau; casglais y gwrthrychau ar gyfer yr ail Ddresel Gymunedol o Johnstown, ger Wrecsam (mae gwybodaeth am y ddresel gyntaf ar 'Rhagor' ar y wefan yma); ymwelais a dau amgueddfa'n Abertawe; a cychwynais fy nghwrs MA Astudiaethau Amgueddfeydd.

Whiw! Erbyn i fi sgrifennu mis nesaf, byddaf wedi bod yn Sweden ar gyfer cynhadledd SAMDOK, sef y grŵp casglu cyfoes mwya blaenllaw yn y byd. Wela i chi wap.

Medi 2007

Rhywun yn darllen...

Postiwyd gan Owain Rhys ar 20 Medi 2007

Waw! Mae rhywun yn darllen! Dwi'm yn siwr sut mae hynny'n gwneud i mi deimlo, ond diolch beth bynnag.

Fe geisia'i ateb eich cwestiynau - Nic yn gyntaf. Y cyfan alla i wneud yw pasio'r neges ymlaen at ein adran TG mae'n ddrwg genni. Er fy mod yn Guradur Bywyd Cyfoes, mae fy neall o systemau cyfrifiadurol yn elfennol iawn. Licio enwau'r gwahanol sgriptiau gyda llaw - tybed yw hi'n bosibl gwneud cerdd ohonynt?

Rhodri - ia, yn Sain Ffagan ydw i, ond ddim yn siwr at beth wyt ti'n gyfeirio gyda'r poster Pictiwrs. Digwyddiad oedd hwn? Bu gweithgaredd yma dro yn ol i gofnodi canmlwyddiant ffilm lle dangoswyd hen ffilmiau o'r archif yn Institiwt y Gweithwyr, Oakdale, ond dyna'r unig gysylltiad alla i feddwl amdano.

Hefyd, doedddwn i heb gysylltu â'r Blogiadur gan fy mod eisiau cael ychydig o stem o'r tu ol i mi cyn hysbysebu i'r Genedl, ond erbyn hyn dwi'n teimlo'n ddigon hyderus i gael fy nghynnwys. Fe geisia i gofrestru dros yr wythnosau nesaf.

Parhewch i gysylltu, ac os oes unrhyw syniadau gennych ynglyn â a chasglu cyfoes, neu sut i wella'r blog, bydda i'n falch iawn cael clywed gennych.

Ac yn ôl â ni i sôn am fy ngwaith. Ers y tro diwethaf, rydym wedi bod yn dioddef o broblemau technegol yn Oriel 1. Dyw'r system cyfrifiadurol ddim yn dod ymlaen pan ddylai, mae lluniau wedi diflannu oddi ar rhai o'r sgriniau cyffwrdd, a mae rhai o'r pwyntiau gwrando yn anibynnadwy. Wn i'm beth yw'r term technegol am 'Gremlins', ond mae'r anifeiliaid bach gwyrdd wedi bod yn cnoi drwy'r gwifrau o ddifrif yn ddiweddar.

Mae dau arddangosfa arall ar y gweill erbyn 2009/2010, sef arddangosfa Eidalwyr sy'n byw yng Nghymru, ac arddangosfa British Sign Language. Mae'r ail un yn ddiddorol ofnadwy achos mae'r 'gymuned' BSL am wneud cymhariaethau gyda'r iaith Gymraeg. Hynny ydi, mae nhw am dynnu sylw at y ffaith mai iaith leiafrifol sydd ddim yn cael y parch y mae'n haeddu yw BSL, yr un peth a'r Gymraeg. Mae ganddynt enghreifftiau o blant yn gorfod eistedd ar eu dwylo i'w stopio rhag arwyddo, sydd ag adlais o'r Welsh Not. Edrych ymlaen i weithio ar y prosiect yma.

Bu penwythnos Hindwaidd (cerddoriaeth, bwyd, hanes, diwylliant) yn llwyddiant ysgubol yn ddiweddar, a byddwn yn mynd i ail agoriad swyddogol y deml Hindwaidd yn Grangetown dydd Sadwrn 22 Medi. Croeso i bawb!

Heblaw hyn i gyd, rwy'n parhau i weithio gyda cymuned o Johnstown drwy eu helpu i gasglu ar gyfer ein Dresel Gymunedol. Bydd y gwrthrychau yma ar ddangos cyn y Dolig gobeithio, ac ar y we yn fuan wedyn.

Yn olaf, bydd arddangosfa o waith yr artist byd-enwog Mary Lloyd Jones yn agor yn swyddogol ar Hydref y 4ydd.

Cofiwch gadw mewn cysylltiad!

Awst 2007

Unwaith eto...

Postiwyd gan Owain Rhys ar 21 Awst 2007
Erbyn hyn, rwy wedi cychwyn ar ychydig o waith maes. Fe gychwynais drwy recordio Sirajul Islam, sy'n wreiddiol o Bangladesh, ond sydd erbyn hyn yn astudio am radd yn y Gymraeg. Mae ganddo hanes diddorol a fydd yn ein harchif ar gyfer ei astudio gan genedlaethau'r dyfodol.

Prosiect arall yw cryfhau'r gornel Ieuenctid yn Oriel 1. Bydd y sgrin sy'n dangos lluniau llonydd o Maes Bs y gorffennol cyn bo hir yn dangos fideo bywiog o ddigwyddiadau 2007. Bydd arwydd cliriach a mwy o wrthrychau e.e. records yng nghesyn gitar Meic Stevens hefyd.

Gyda'r Rhith Amgueddfa'n lansio diwedd mis Awst, mae prosictau ar y gweill ar gyfer hwnnw, sef cofnodi cynnwys y Ddresel Gymunedol bresennol, a chynnwys cyfweliadau gyda pobl ifanc o Faes B wythnos yr Eisteddfod.

Rwy hefyd yn gysylltiedig â phrosiect cyffrous sydd am ail-adeiladu un o dai'r Pentref Celtaidd gyda waliau pridd, cynllun chwyldroadol all droi theoriau archaeolegol wyneb i waered!

Heblaw am hyn i gyd, byddaf yn ymweld ag Amgueddfa Casnewydd dydd Iau i drafod eu harddangosfa bop hwy, ac rwy wedi bod ar deledu a radio Cymraeg i hyrwyddo'r Oriel newydd a fy swydd newydd. Mae pethau'n dechrau poethi!

Oriel 1

Postiwyd gan Anna Gruffudd ar 2 Awst 2007

Iawn te! Bywyd yn Oriel 1!

Dyma fi yn fy swydd newydd fel dehonglydd Oriel 1, oriel newydd Sain Ffagan yn sgwennu blog am y tro cynta! Fe fydd, fel yr Oriel yn un arbrofol felly! (Ac fel Owain...nes i sgwennu hwn unwaith a cholli'r cwbl...ti'n meddwl sa'n well i ni gael gwersi?!!) Yn anffodus, ar hyn o bryd rwy'n eistedd wrth ddesg yn syllu ar olygfa ddigon llwyd drwy'r ffenest.

Mae ambell sied wedi eu ffensio ag arwydd 'keep out' a 'Site Canteen' i'w gweld ac adeilad mawr siedaidd yn gefndir. O wel, er mwyn cyfleu ychydig o naws y lle bydd rhaid i fi ddychmygu felly fy mod i'n eistedd yng nghanol yr Oriel. O fy mlaen i, mae superted a'i gefn tuag ata i a'i ben e'n pwyso ar hen arwydd y pentref a fu unwaith, 'CAPEL CELYN'.

Uwch ei ben, mae Sgrabble yn Gymraeg a rhes o oleuade bach gwyn yn goleuo'r casyn gwydr y mae'n eistedd ynddo.

Yn nes ata i mae dros gant o recordie saith modfedd o'r 60au a'r 70au yn garped lliwgar lliwgar ar y wal, ac yn treiddio drwy'r awyr mae cerddoriaeth hudolus hamddenol.

Ar y wal y tu ol i mi mae lluniau gan blant yn dawnsio ar y wal ar ffilm. O gyfeiriad arall mae swn gwahanol, clychau a baban yn crio, ac yn y pellder swn torf yn dathlu ym mharc yr arfau. Wrth droi o gwmpas rwy'n gweld drychau mawr ar y wal ac yn hongian o'u hamgylch mae dillad sy'n eich gwahodd i'w teimlo a'u gwisgo.

Ddoe, roedd criw o blant yn dawnsio o amgylch y 'juke box' ac ymwelwyr yn rhyfeddu ar wydr lliw a wnaed gan SMYLe, grwp o fwslemiaid ifanc o Abertawe. Roedd plant bach yn gwneud llwyau caru papur gydag un o'r artisiaid fydd yn gweithio yn yr Oriel bob dydd ym mis Awst gyda'r Cert Celf. Roedd merched yn eu harddegau yn gigls i gyd yn cael tro'n cario'r ddol mewn siol yn y dull Cymreig a thatcu yn rhyfeddu ar ei wyrion bach yn gwrando'n astud ar glustffonau arbennig ar straeon ac atgofion o gasgliadau'r archif. Mae cymaint wedi digwydd yn yr Oriel, dawnsio o dros y byd, artistiaid yn perfformio a darlithiau a sgyrsiau o bob math.

Ond well i fi fynd nawr i wneud ychydig o waith paratoi ar gyfer y gweithdau a'r gweithgareddau fydd yn yr Oriel. Mwy o hanesion am gymeriadau a bywyd Oriel 1 i ddod!

Gorffenaf 2007

Mae mis yn amser hir...

Postiwyd gan Owain Rhys ar 11 Gorffenaf 2007
Mae'r cofnod yma'n mynd i fod yn fyr. Roeddwn newydd orffen fersiwn estynedig o'r mis diwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg - fe wasgais 'Arbed', ac mi ddiflannodd y cwbl. Felly dwi'n pwdu. Yn fras, dyma sut aeth y mis diwethaf:

Mehefin 18 - Cyfarfod gyda'r Llyfrgell Genedlaethol. Fe drafodwyd casglu gwefannau, rhaglenni teledu a recordiau, ymysg pethau eraill (effemera, sut i gofnodi Youtube ayb). Diddorol iawn, a diolch o galon i bawb yn y Llyfrgell am y croeso.

Mehefin 19 a 20 - Gweithdy Storïau Digidol gyda'r BBC yn Aberystwyth. Techneg defnyddiol ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes. Ewch i'r wefan www.bbc.co.uk/wales/capturewales/

Mehefin 21 - Colli Cynhadledd Stori Ddigidol oherwydd salwch

Mehefin 23 - Priodas Deuluol

Mehefin 24 i Orffennaf 1 - Gwyliau yng Nghaernarfon

Gorffennaf 6 a 7 - Cynhadledd Haness llafar yn Llundain. Eto, techneg sy'n ddefnyddiol dros ben ar gyfer cofnodi bywyd cyfoes.

Gorffennaf 12 (fory) - Cwrdd gyda Gr?p Hanes Johnstown yn Wrecsam i drafod curadu'r Ddresel Gymunedol nesaf.

Os hoffai rhywun wybod mwy am y rhain, yna cysylltwch â mi. Yn y blog gwreiddiol, llwyddais i sôn am Glyn Wise, Big Brother, amgueddfa rithiol yn Second Life, enw Cymraeg i Facebook (Gweplyfr) a nifer o bethau hynod ddiddorol tebyg. Ond dyna fo, dyna pa mor anwadal yw'r ether.

Mehefin 2007

Casglu Cyfoes

Postiwyd gan Owain Rhys ar 14 Mehefin 2007

Wel, ar ôl blynyddoedd o ymwrthod, dwi wedi penderfynu sgwennu blog. A dweud y gwir, doedd gen i ddim dewis. Cefais fy mhenodi'n Guradur Bywyd Cyfoes yma'n Amgueddfa Werin Cymru, ac fel rhan o fy ffurflen gais, cyhoeddais i'r byd y buasai'n dda o beth rhoi cyfle i'r curaduron rannu eu bywydau diddorol, llawn cyffro, gyda'r cyhoedd. Hyn er mwyn cynyddu "argaeledd" (buzz-word amgueddfaol) y casgliadau. Roedd yn rhaid, felly, dangos y ffordd.

Casglu cyfoes - beth yn union mae hynny'n olygu? Wel, i hwyluso pethau, penderfynais hollti'r swydd yn ddwy.

Yn gyntaf, rwyf am weithio gyda churaduron eraill i lenwi'r gaps yn y casgliad ers 1950. Mae'n gasgliad eithaf cryf yn nhermau gwrthrychau a hanes llafar y Gymru Gymraeg wledig, amaethyddol cyn 1950, ond yn wannach yn nhermau hanes y Gymru ddi-Gymraeg, drefol, ddiwydiannol yn enwedig ar ol 1950, er fod adeiladu Rhyd-y-car, Oakdale a Gwalia wedi gwella 'r sefyllfa rywfaint.

Bydd rhaid bod yn ddethol iawn wrth ddewis pethau gan fod y stordai yn llawn dop. Y bwriad yw pigo a dewis gwrthrychau'n ofalus, a gweu storiau a hanesion o'u hamgylch e.e. gallwn arddangos camera super 8 mewn cesyn, tra'n arddangos ffilmiau o Dreforgan yn y Chwedegau yn y cefndir, a chael tystiolaeth y bobl oedd yn berchen ar y ffilm ar arwydd.

Mae'r ail ran yn anos. Beth i'w gasglu yn yr oes wastraffus, E-beiaidd hon? Ein penderfyniad yw delio gyda chymunedau, prosiectau penodol, gweithdai a themau. Gallwn wedyn gwtogi'r dewis a chanolbwyntio ar wrthrychau neu storiau sy'n crisialu'r oes.

Er enghraifft, mae gennym Ddresel Gymunedol fydd yn newid pob chwe mis. Bydd cymuned neu grwp gwahanol yn arddangos gwrthrychau sy'n bwysig iddyn nhw. Y grwp cyntaf yw grwp Ieuenctid o Benyrenglyn a arddangosodd Gameboy Nintendo, peldroed wedi ei arwyddo a blanced gysur. Y grwp nesaf fydd Cymdeithas Hanes Johnstown.

Dull arall o gasglu cyfoes yw creu Storiau Digidol. Gwneir hyn trwy dynnu lluniau ar gamera ffon a chreu ffilm fer gyda'r canlyniadau. Rwyf am fynychu cwrs a chynhadledd yn Aberystwyth wythnos nesaf fydd yn delio gydda hyn. Na i adael i chi wybod sut aeth hi.

Fy arddangosfa fawr gyntaf fydd un ar gerddoraieth bop Cymru. Dwi'n gobeithio cynnwys gwrthrychau fel offerynnau, props llwyfan a ffansins, dangos fideos, chwarae recordiadau sain a chynnal gweithgareddau fel gweithdai rap.

Mae mwy i ddod...

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.