Y Pentref Celtaidd
Rhagfyr 2010
Gaeaf yn y Pentref CeltaIdd
Gaeaf yn y Pentre Celtaidd, cyfle i deuluoedd wylio sut mae darparu ar gyfer y gaeaf, dewch i droi eich llaw at wehyddu gwiail a chawen.
4 a 5 o Rha 12:00 i 13:00 a 14:00 i 15:30
Tachwedd 2010
Dathlu Moel y Gaer
Diolch o galon i ddisgyblion Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor, Sir Fflint ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd am ymuno gyda ni wrth ddathlu creu'r Moel y Gaer newydd ddoe. Roedd hi'n wych cael ysbrydoliaeth gan Dewi Pws Morris, Bardd Plant Cymru. Buom yn creu perfformiad a darn o farddoniaeth. Byddaf yn cerfio'r geiriau hyn ar ddarn o bren dros yr wythnosau nesaf i'w harddangos nhw ger Moel y Gaer. Dyma'r gerdd i chi
Ti yw cartref y Celtiaid
Yn llawn o atgofion henfyd
Pobol cryf a dyfeisgar ein gorffennol
A ni? Dani yma o hyd
Medi 2010
Dysgu sgiliau newydd
Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn dysgu sgiliau newydd. Treuliodd Paul Atkin rai diwrnodau yn y Pentref yn dysgu fi sut i droi pren a chreu powlen. Adeiladodd durn ar fy nghyfer a gyda chefnogaeth ein crefftwyr yma, y gof a'r gwneuthurwr lledr, rydym ni'n gobeithio cynhyrchu ein powlenni ein hunain! Ymunwch gyda fi dros y misoedd nesaf wrth i mi baratoi ar gyfer y gaeaf.
Dewch i weld sut, yn fy marn i, yr oedd pobl yr Oes Haearn yn storio bwyd a phlanhigion ar gyfer y gaeaf
8-10 Hyd 11.00 - 13.00 a 14.00 - 16.00
Gwyliwch fi'n paratoi ar gyfer y gaeaf a dewch i droi eich llaw at wehyddu gwiail a chawen
4 - 5 Rhag 12.00 - 13.00 a 14.00 - 15.30
Gorffenaf 2010
Bywyd newydd i'r tŷ crwn
Pwy sy'n gwenu heddiw ar y t? crwn newydd? Mae Dafydd a'r tim adeiladu yn mwynhau ffrwyth eu llafur wedi misoedd o waith caled. Wrth ddathlu agoriad Moel y Gaer mae pawb wedi bod yn eu llongyfarch am eu gwaith. Diolch i bawb a ddaeth i ddathlu gyda ni ar yr achlysur arbennig hwn. Rwyf wedi mwynhau'n fawr trafod y gwaith gyda chi i gyd.
Agoriad Swyddogol Tŷ Crwn
Mae'r gwaith bron ar ben a'r dathlu ar fin dechrau! Fel y gallwch weld mae'r to wedi ei gwblhau ac rydym wedi arbrofi trwy greu twll bach ar gyfer y mwg. Gobeithio y bydd yr arbrawf yn llwyddiannus - amser a ddengys! Rwyf angen gwneud rhywfaint o wyngalchu ar y waliau mewnol ac yna fe fydd wedi ei gwblhau. Byddwn yn dathlu trwy gynnal agoriad swyddogol ar ddydd Sadwrn os ydych o gwmpas dewch draw am 3 o'r gloch i ymuno gyda ni yn y 'Pentref Celtaidd'. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u diddordeb dros y misoedd diwethaf ac yn arbennig i'r gwirfoddolwyr Dylan Hammond a Lauren Parfitt.
Mehefin 2010
Adeiladu tŷ crwn - y to
Yn ystod y pythefnos diwethaf rydym wedi bod wrthi'n adeiladu'r to gwellt. Rydym wedi defnyddio saith mwdwl o gyrs ar gyfer y to, mae pob mwdwl yn cynnwys rhwng 80-100 o fwndeli. Fel y gallwch weld rydym wedi defnyddio tipyn o gyrs!
Cymrwch olwg ar y ffotograffau. Gallwch weld y bwndeli'n cael eu gosod rhwng y trawslathau gwiail o goed cyll cyn bod Dafydd yn mynd ati i dacluso'r to gwellt.
Mai 2010
Adeiladu tŷ crwn - mae'r gwaith yn parhau
Rydym ni wedi bod wrthi'n gosod y trawslathau yr wythnos hon. Dyma fydd yn cynnal y to gwellt. Mae diddordeb mawr gen i yn y broses hon. Roedd Dafydd, Tim ac Andy yn ddigon caredig i adael i mi helpu! Byddaf yn y Pentref rhwng dydd Llun a dydd Iau yn ystod hanner tymor. Dewch draw i weld y gwaith.
Adeiladu tŷ crwn - creu to
Rwy'n dechrau teimlo'n gyffrous nawr a'r adeilad yn magu to. Gallwch chi ddychmygu sut siap fydd arno pan fydd Dafydd a'r criw wedi gorffen y gwaith.
Roedd digon i Dafydd feddwl amdano. Aeth y chwech traws cyntaf i fyny yn eithaf di ffwdan ond wedyn roedd yn rhaid ystyried y lle gorau i osod y trawstiau cadwynog. Penderfynodd Dafydd eu gosod y tu allan i'r prif drawstiau. I wybod pam darllenwch ei ddyddiadur
Aeth y llwyth nesaf o drawstiau i fyny'n eithaf cyflym. Roedden nhw wedi cael eu rhicio fel bod modd iddynt fachu'r gadwyn. Llinyn wedi ei dario sy'n eu rhwymo ynghyd. Gosododd Dafydd ail gyfers o drawstiau cadwynog tua gwaelod y to. Cyn hir fe fyddwn yn gosod y to gwellt.
Darllenwch ddyddiadur Dafydd http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htm
Adeiladu tŷ crwn - y gwaith yn parhau
Dechreuodd y gwaith ar y trawstiau ddoe. Mae 36 o rai onnen gennym ni i'w gosod. Byddwn yn dechrau creu trawstiau cadwynog ac yn defnyddio gwiail cyll ar gyfer y tulathau. Dewch draw i'n gweld ni wrthi.
Diolch i bawb ohonoch alwodd heibio ar y penwythnos - ges i dipyn o hwyl!
Ebrill 2010
Adeiladu tŷ crwn
Ers rhai wythnosau rydym wedi bod wrthi'n adeiladu t? crwn yma. Dewch i ymuno gyda ni dros yr wythnosau nesaf i weld y gwaith yn mynd rhagddo. Dafydd Wiliam sydd wrthi’n adeiladu ac fe fyddaf fi o gwmpas i esbonio’r hyn sy’n digwydd i chi. Gallwch ddilyn yr hanes yn ddyddiol ar
http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htm
Ar ddydd Sadwrn a dydd Llun (1af a'r 3ydd o Fai) dewch draw i brofi technegau cynnau tân a choginio. Tybed sut fyddai pobl yn ystod yr Oes Haearn wedi gwneud y pethau hyn?







