Eglwys Sant Teilo
Mehefin 2010
Gwahoddiad i Wasanaeth Lladin yn Eglwys Teilo Sant
Mae'r nifer o lefydd sydd ar gael yn fach, felly gaf fi ddechrau gan argymell eich bod yn galw'r swyddfa addysg yn Sain Ffagans ar (029) 20 57 3424 i archebu lle. Bydd y gwasanaeth am 11.00 ar y 24ain o Fehefin.
Hwn fydd y gwasanaeth Lladin cyntaf yn hanes Eglwys Teilo Sant ar y safle hwn. Cyn ei symud o ardal Pontarddulais, byddai'r math hwn o wasanaeth wedi bod yn gyffredin yn oes y Tuduriaid. Mae'r gwasanaeth ei hun ar agor i'r cyhoedd, ond mae'n angenrheidiol eich bod yn bwcio lle. Mae'n cael ei gynnal gan arbenigwyr sy'n dod i'r amgueddfa o bedwar ban byd i gwrdd a thrafod hanes Canoloesol. Y nhw sy'n gweithio gyda llawysgrifau, archaeoleg a phensaernïaeth y cyfnod i greu darlun mwy cyflawn o fywyd tua 500 mlynedd yn ôl. Fe fyddwn ni yn arbrofi gyda'u damcaniaethau, a mae croeso i chi ymuno â ni!
Mewn ffordd, bydd cynnal y gwasanaeth yn ffordd o brofi os ydy'n gwaith ni yn ail-adeiladu Eglwys Teilo Sant yn gywir. Byddwn hefyd yn gallu helpu'r ymchwilwyr i brofi, neu gwrth-brofi, eu damcaniaethau nhw am sut oedd y gwasanaeth yn gweithio. Yn anffodus, does dim Tuduriaid o'r cyfnod ar ben arall y ffôn, felly wrth geisio arbrofion fel hyn y byddwn yn cael darlun cliriach o fywyd pobl yn y Canol Oesoedd. Tan i fi adeiladu peiriant amser, dyma'r peth agosa' gewch chi...
Ebrill 2010
Gweithgareddau i Oedolion yn Eglwys Teilo Sant
Yn hwyrach yn y gwyliau, dyma droi asgell ddeheuol yr Eglwys yn weithdy bychan, i artistiaid o bob oed gael tro ar beintio'n defnyddio deunyddiau naturiol. Daeth dros 300 egin-Holbein atom i ddefnyddio stensiliau, ocr, pownswyr a phaent wy i greu portread Tuduraidd, gan ddefnyddio'r un technegau ac y gwnaethom ni wrth ail-addurno'r adeilad. Fel y gwelwch ar flog Oriel 1 Sian isod, roedd cyfle i greu ffrâm Duduraidd i arddangos y portread yn ei lawn ogoniant. Dwi'n credu y galla i fentro a dweud bod y weithgaredd wedi bod yn un hwylus iawn, er i mi gael fy ngorchuddio mewn ocr. Erbyn diwedd yr wythnos, ro'n i'n edrych fel petawn i 'di cael anffawd gyda photel o liw-haul ffug.
A finne wedi sgrwbio tu ôl i fy nghlustiau, ac wedi rhoi fy nhrwyn yn ôl ar y maen, mae'r cylch yn troi eto: amgyffred â'r gweithgareddau, ymchwilio, gwerthuso, paratoi ac yna aros, aros, aros i chi bobl hyfryd i'n ffonio i archebu lle! A chan fy mod i'n arfer cloi bob post gyda hysbyseb bach digywilydd: dyma grynodeb o'r gweithgareddau i oedolion y gwelwch chi o gwmpas yr Eglwys yn ystod y misoedd nesaf.
Diwrnod o Gelf i Oedolion dros 50, 6 Mai, sy'n cynnwys gweithdy pigmentau naturiol, cinio a deunyddiau am ddim a llawer mwy! Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly cofiwch alw o flaen llawn i osgoi cael eich siomi.
Gwyddoniaeth a'r Eglwys yn y Canol Oesoedd, 29-31 Mai: sgwrs i bryfocio'r meddwl yn Eglwys Teilo Sant.
Y Gwr Kadarn, 26 Mehefin. Y cyfle cyntaf ers 1640 i weld y chwip o ddrama Gymraeg hon yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored.
Mawrth 2010
Cymru a Hanes y Byd
Mae'r rhaglen wedi ei chyflwyno gan Eddie Butler, ac mae'n rhoi golwg ffres ar beth drafodais yn y blog isod: beth sy'n ein gwneud ni yn 'ni'? Cewch weld uchafbwyntiau diddorol, anghyffredin ac eiconig o'ch casgliadau cenedlaethol yn ystod y rhaglen.
Dwi ddim yn hollol ddi-duedd, ond rhaid i mi ddweud fod yr Eglwys wedi ei ffilmio'n dda iawn, ac roedd yn hwyl gweithio gyda'r tîm. Y tro nesa', fe fyddai'n sicr o ddod a bocs i sefyll arno ar gyfer fy nghyfweliad, gan fod Mr Butler yn enfawr! Gallwch weld fy ngwep i (a'r Eglwys) tua 9 munud i mewn i'r rhaglen. Mwynhewch!
Mae'n bodoli, medden nhw...
Mi ddoth ata i yn dal mewn cyfeirlyfr hen a swmpus, a dweud rhywbeth rhyfedd: "Mae'n real! A ma' fe 'ma!". Wrth roi'r llyfr i lawr, mae'n gadael i'r tudalennau syrthio ar agor. A dyna wnaethon nhw, ac agor ar yr union dudalen 'roedd eisiau ei dangos i mi.
O'r profiad dwi wedi ei gael gyda geiriaduron a hen lawysgrifau, mae tudalennau sy'n syrthio ar agor fel hyn yn bownd o gynnwys rhywbeth diddorol neu anweddus. Mae dod o hyd i dudalen yn y modd hwn yn gwneud i mi feddwl am yr holl bobl sydd wedi bod yn darllen yr union dudalen o fy mlaen. Dwi'n teimlo fel fy mod yn ymuno â chlwb cudd, lle mae cenedlaethau o ddarllenwyr wedi chwilota am yr un peth, a'i ddarllen yn ofalus. Roedd gan fy hen athro hanes celf stori am lawysgrifau Beiblaidd o'r canol oesoedd, oedd wedi'u copïo a'u defnyddio gan fynachod. Bron yn ddi-ffael, mae'r llawysgrifau hyn yn agor ar un dudalen arbennig: ble bydd Bathsheba yn cael ei disgrifio yn mynd i'r bath. Yn lwcus, doedd dim byd mor fasweddus i'w ganfod y tro hwn - ond sioc gefais i yr un fath:
Mae bron yn apocryffa: cofnod yr Enyclopaedia Britannica am Gymru: 'Wales, See England'. Roedd e'n bodoli! Roeddwn i wedi hen arfer defnyddio'r frawddeg fel idiom, i'w rwgnach o dan fy ngwynt pan fydd Jeremy Clarkson yn defnyddio 'us'; pan fydd map corfforaethol yn hepgor Ynys Môn, ac yn fwyaf diweddar, pan ddefnyddiodd Google lun un o gestyll y Brenin Edward i dathlu dydd Gwyl Dewi. Mae'n dipyn sylweddol o hanes i'w wasgu i mewn i gyn lleied o eiriau.
Fy ymateb i yw hynny, wrth gwrs. Bydd trafodaethau am Gymreictod, Prydeindod ac amryw o '-tods' eraill yn parhau tra bo pobl ar yr ynys yma, a rhai o gorneli llai goleuedig y rhyngrwyd yn ogystal. Beth bynnag yw'ch barn chi, swyddogaeth amgueddfa yw gwneud cofnod ohono, o dro i dro, i gadw llygad ar beth sy'n ein gwneud ni yn 'ni'.
Mi alwais heibio'r fersiwn ddiwygiedig o Encyclopaedia Britannica, gan obeithio dod â'r blog hwn i ben gyda dyfyniad bach diddorol. Ro'n i wedi gobeithio gallu crybwyll hyder a phroffil y wlad yn fyd-eang, a gorffen ar rhyw nodyn positif. Yn anffodus, yn ôl britannica.com (fel y gelwir y gyfrol nawr), 'constituent unit' yw Cymru heddiw. Rhaid cyfaddau i mi gael fy siomi. Mae'n rhyfedd gweld, 150 mlynedd ar ôl i'r frawddeg "Wales: see England" gael ei chyhoeddi, ac ar drothwy trosglwyddo pŵerau newydd i Lywodraeth y Cynulliad, nad yw 'Gwlad' yn llawn ddisgrifio'r hyn a wêl rhai, pan fyddan nhw'n edrych ar Gymru.
Taith Gerdded Duduraidd
I aros pryd, dyma luniau newydd yr hoffwn i eu rhannu hefo chi.
Os yw'r lluniau wedi'ch ysbrydoli, ewch draw i'r dudalen ddigwyddiadau i archebu lle ar ein taith gerdded Duduraidd. Bydd y daith ar y 20ed o Fawrth, a byddwn yn ymweld ag uchafbwyntiau Tuduraidd Sain Ffagan. Cewch gyfle i ymchwilio gwrthrychu replica, yn ogystal ag arogleuon Tuduraidd - rhai da a rhai drwg! Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar y daith, felly cofiwch archebu eich lle o flaen llaw.
Gobeithio y gwela i chi yno!
Chwefror 2010
Trysor Cudd
Cyn i mi fynd ymhellach, gai esbonio mai llosgwr arogldarth, neu incense yn Saesneg, yw thuseur. Mae'n siâp cawg, ac wedi'i gysylltu at gadwyn, i'r arogldarth gael ei chwifio 'nôl a mlaen. Caiff arogldarth ei ddefnyddio mewn eglwysi, temlau, ac allorau ar hyd a lled y byd hyd heddiw. Mae'r aroglau cryfion hyn yn gallu bod yn rhan bwysig o brofiad yr addolwr o adeilad, neu fan, sanctaidd. Byddwn yn clywed o hyd sut 'mae synnwyr arogl yn gallu agor rhannau cyfrin o'r cof. Mae'r gymysgedd o Thus, Myrr ac olewau sitrws a gaiff eu llosgi mewn llawer o Eglwysi Catholig yn gymysgedd o aroglau trymion, a rhai ohonynt wedi eu defnyddio mewn seremonïau a phersawrau ers oes yr Eifftiaid cynoesol a thu hwnt. Er nad yw'r arogl yn deffro cymaint o atgofion â bara ffres, neu mothballs, mae'r arogl gyfoethog yn medru arwain y dychymyg ar drywydd troellog yn ôl drwy hanes.
Nawr, cyn mod i'n dechre swnio'n rhy debyg i hysbyseb shampŵ, gadewch i mi gyfadde': rwy'n sgut am arogldarth. Dim unrhyw arogldarth chwaith. Fe fyddai'n cerdded yn ffroenuchel heibio'r conau a'r brigau llachar ac yn anelu am yr ystor (resin). Caiff ystor ei gasglu, gan amla, ar ffurf nodd (sap) o goed arbennig. Mae gan bob math ei nodweddion a'i hanes unigryw. Mae Thus yn debyg i ddagrau ambr, meddal. Myrr, wel, mae hwnnw'n debycach i hen gragen pili-pala. Mae Damar, ar y llaw arall, yn edrych fel pear drops ac yn arogli fel neithdar a sitrws ysgafn...
Ta waeth am hynny - 'nôl at y thuseur! Mae'n un ni yn replica, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Eglwys Teilo Sant. Rydym ni wedi gwneud arbrofion yn y gorffennol, ac wedi cael ymateb positif a negyddol. Roedd rhai yn credu bod yr arogl yn ychwanegu at lonyddwch yr adeilad. Rhuthrodd rhai yn syth allan trwy'r drws ar ôl dechrau peswch. Nododd rhai eu bod yn teimlo'n anghyfforddus, efallai oherwydd eu daliadau crefyddol personol. Fe fyddwn ni'n defnyddio'r thuseur newydd pan fyddwn ni'n ceisio ail-greu ein gwasanaeth Tuduraidd cyntaf eleni (mwy am hynny rywbryd eto...). Byddwn hefyd yn defnyddio cerddoriaeth o'r cyfnod a litwrgi Lladin, i weld a allwn ni ail-greu naws gwasanaeth eglwysig Cymreig ym 1500.
Yr unig drafferth ar hyn o bryd yw'r ffaith fod y Curadur a gomisiynodd y thuseur ar ei wyliau. Mae'r parsel mawr yn eistedd yn yr ystafell ddur. Dwi'n ceisio bod yn ddisgybledig a pheidio â phipio y tu fewn. Byddai hyn yn reit anodd, ta beth, am nad oes allweddi gennyf. Bydd rhaid i ni aros, felly, tan ddydd Llun i'w agor. Fe fyddaf yn recordio'r cyfan, felly cofiwch alw 'nôl i gael golwg arno!
Adnoddau Tuduraidd Newydd
Pecyn Tuduraidd yn Gymraeg (ffeil .pdf)

Cynlluniwyd yr adnodd yn bennaf ar gyfer ymwelwyr o ysgolion cynradd, ond maen nhw'n llawn darluniau a syniadau a fyddai'n addas ar gyfer teuluoedd hefyd.
Mae'r adnoddau wedi eu cynllunio ar gyfer defnydd ar y safle, ac ar ôl ymweliad ag adeiladau Tuduraidd safle Sain Ffagan.
Yn sesiynau hyfforddi athrawon yr Adran Addysg, fe fuom ni'n casglu adborth ar y cynnwys. 'Dyn ni wastad yn falch o glywed rhagor, fodd bynnag. Pa fath o adnoddau i ddysgwyr (o bob llun a phob siâp) hoffech chi eu gweld ar gael yma?
Fe fues i a Darren y ffotograffydd i fyny i Eglwys Teilo Sant y bore 'ma, i dynnu lluniau o wrthrychau Tuduraidd ar gyfer llyfr lluniau i blant. Rwy'n edrych 'mlaen i gael gweld beth fydd ein dylunwyr yn ei wneud gyda'r lluniau, a pha olwg fydd ar y llyfr ei hun yn y diwedd. Mi wnai'n siwr fy mod yn ei grybwyll yn fama, pan fydd yn barod!
I'r rhai ohonoch sydd eisiau mwy o wybodaeth am yr arlwy sydd ar gael yn barod i ysgolion cynradd, dyma daflen ddefnyddiol: Cyfleoedd i Ysgolion Cynradd (ffeil .pdf)
Sant, Santes, Seintiau
I'r rhai ohonoch sydd yn ansicr am sut yn union i ddathlu'r diwrnod hwn, dyma awgrym: Teilo yw nawddsant afalau a cheffylau. Cofiwch ei nodi yn eich ffeiloffacs!
Gallwch weld hanes bywyd Teilo wedi ei arddangos mewn cerfiad cain, lliwgar draw yn hafan Teilo.
Aros am y gwanwyn...
Er bod digon wedi bod yn mynd yn ei flaen ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf wedi bod yn digwydd tu ôl i gefnau'r ymwelwyr: trwsio toi gwellt, torri cwysi ar gyfer ceblau, cynnal gwaith cadwraeth ac ail-osod arddangosfeydd. Erbyn heddiw, mae'r safle wedi ei hawlio'n ôl gan y cyhoedd. Ar ôl taith i lynnoedd Cosmeston bnawn Sadwrn, ro'n i'n argyhoeddiedig bod yr rhan fwyaf o bobl y de-ddwyrain wedi deffro o'u trwmgwsg gaeaf. Roedd 'na fwy o bobl yno nag oedd o hwyaid ar y llyn.
Lan yn Eglwys Teilo Sant, mae'r arlunydd Fleur Kelly wedi bod yn cwblhau gwaith pellach ar baneli pren yn y gangell. Gan mai'r ardal hon oedd yn ardal fwyaf sanctaidd yn yr Eglwys (ac yn dal i fod, mewn rhai achosion), mae cynllun yr addurniadau yn adlewyrchu chwaeth a meddylfryd y clerigwyr fyddai'n gweithio yno yn y 16ed ganrif. Mae'r murluniau yn dangos yr Archesgob Tomos a Becet, a'r sant arwrol, Siôr. (I'r rhai ohonoch sy'n pendronni pam bod Siôr yn ymddangos mewn eglwys gymreig, bydd blog am hynny yn y dyfodol agos!). Rydym wedi dewis cynllun o angylion cerddorol, yn gafael mewn offerynnau o'r cyfnod 1500-1530, ar gyfer y paneli pren ar y sgrîn.
Mi es â chamera newydd yr Adran Addysg i fyny i'r Eglwys hefo fi, gan obeithio tynnu ffilm o Fleur wrthi'n gweithio i'w rannu gyda chi yma ar y blog. Yn anffodus, nid Scorsesyn mohonof, felly dyma i chi luniau llonnydd o fy ffilm gyntaf, sigledig. Bydd Fleur yn dychwelyd ymhen rhai wythnosau i orffen y gwaith. Mae paent pigment traddodiadol yn hir iawn, iawn yn sychu - gobeithio erbyn hynny y byddaf wedi dysgu sut i ddefnyddio'r camera'n well, a chyflwyno ffilm i chi sy'n debycach i 'The Agony and the Ecstasy' na 'Pollock'...
Ionawr 2010
Sain Ffagan dan eira: Teithiau tywys o Eglwys Teilo Sant am fynd yn eu blaen yfory - os fydd yr eira'n cadw draw!
Dyw safle Sain Ffagan ddim mor dawel â hyn fel arfer. Ar bnawn anghynnes ym mis Tachwedd, hyd yn oed, gallwch ddod o hyd i'r ymwelwyr mwya' penderfynol yn cerdded hyd y safle ym ymweld â'r orielau a'r tai hanesyddol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, yr unig ymwelwyr sydd 'di bod yn heidio i'r safle yw'r adar sydd wedi ymgartrefu yn y grwychoedd, a mentro at y swyddfeydd â'r prif adeilad i chwilio am fwyd. Bnawn Gwener, cefais weithio yng nghwmni dwy gornchwiglen oedd wedi mentro i'r brif fynedfa i fwynhau gweddill haul y prynhawn.
Yr unig bobl ar y safle heddiw yw'n Gofalwyr, Crefftwyr ac Amaethyddwyr, sy'n brysur yn clirio lluwchiau a halltu llwybrau. Mae seiniau, lliwiau ac aroglau ein 'Nosweithiau Nadolig'* wedi hen ddiflannu, prin y byddech yn gallu credu eu bod wedi bod yma yn y lle cynta'. Mae'r safle yn rhyfedd o dawel - ac er ei bod hi'n eithriadol o brydferth yma, 'dyw hi heb fod yn ddigon diogel i agor y safle i ymwelwyr ar sawl achlysur yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Yn yr eira, mae Eglwys Teilo Sant yn edrych yn llawer llai llachar nag yr oedd hi yn ystod yr haf. Fel yr arferir gydag adeiladau hanesyddol, mae'r gwyngalch sy'n gorchuddio'r waliau allanol wedi derbyn y gwaethaf o effeithiau'r gaeaf, yn hytrach na'r adeilad ei hun, a chaiff ei ail-beintio ar y muriau pan fydd y tywydd yn fwynach. Mae'r tu fewn, fodd bynnag, mor llachar ag yr oedd ar achlysur agor yr adeilad ar y safle ym 2007 - ac, fe obeithiwn, mor llachar ag yr oedd ym 1500-1530.
Mae cynllun y murluniau bron wedi'i gwblhau, er bod rhai o'r arysgrifiadau Lladin yn llawer anoddach i'w dadansoddi na'r disgwyl. Mae Capel y Gogledd wedi'i addurno i gynnwys murluniau o Dewi a Theilo Sant, yn ogystal a ffigwr o beth dybiwn ni yw noddwyr lleol o oes y Tuduriaid. Cyfansoddwyd y cynllun gan ddefnyddio darnau brau o'r plaster yr achubwyd o safle gwreiddiol yr Eglwys ym Mhontarddulais. Ble 'roedd plastr wedi dirywio, neu'r pigment wedi pylu, defnyddiwyd esiamplau o furluniau tebyg mewn eglwysi Cymreig fel ffynonellau, i sicrhau bod yr ail-addurno mor gywir ac y gall fod.
Er nad yw Capel y Gogledd yn hygyrch i'r ymwelydd (yn bennaf am fod rhai o ddodrefn hynaf ein casgliad yma yn Sain Ffagan yn cael eu harddangos ym mhen dwyreiniol yr Eglwys), gellir gweld y murluniau hyn trwy'r sgriniau cerfiedig. Mae'r rheiny hefyd wedi cael eu lliwio yn ddiweddar, gan Fleur Kelly, artist sydd wedi gweithio gyda ein tîm o grefftwyr i addurno sawl cerfiad yn yr adeilad.
Os bydd yr eira yn cadw draw, bwriedir gynnal y teithiau tywys a hysbysebwyd yfory a dydd Gwener (14-15 Ionawr), gan gychwyn yn yr Eglwys am 12:00, 13:00 a 14:00. Erfynwn arnoch, fodd bynnag, i alw o flaen llaw i wneud yn siwr bod yr amgueddfa ar agor, a'r Eglwys yn hygyrch ar (029) 2057 3500. Gallwch gerdded i'r Eglwys mewn 10 munud ar ddiwrnod clir, felly cofiwch ystyried hyn pan yn dewis pa 'sgidie i'w gwisgo!
Cadwch yn gynnes, a gobeithio y gwelaf i chi yn yr Eglwys!
*taffi triog; bandiau pres; dail llawryf; mwg coed a sgidie gwlyb, rhag ofn eich bod eisiau gwybod!
categorïau
Eglwys Sant Teilo
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







