Datrys dirgelion, archwilio coed a defnyddio’ch ffôn symudol – beth sydd gan hyn i’w wneud â rhifedd?
Ymwelodd nifer o athrawon ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yr wythnos ddiwethaf er mwyn mynychu gweithdai a sgyrsiau gyda’r nod o ddysgu ffyrdd creadigol, llawn hwyl o ennyn diddordeb disgyblion mewn rhifedd.
Rhoddodd yr Athro Chris Budd, Prifysgol Caerfaddon a Rob Eastaway, Maths Inspiration, sgyrsiau hynod fywiog a diddorol yn ymdrin â mathemateg yn y byd modern, gan gynnwys sut mae Google yn gweithio a ffyrdd o fod yn greadigol â mathemateg.
Cafodd yr athrawon gyfle yn y gweithdai i raglennu gemau cyfrifiadurol eu hunain (Technocamps), dod yn dditectifs mathemateg i ddatrys trosedd (Techniquest), dysgu sut mae technoleg yn gweithio (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd), archwilio mathemateg mewn natur (Amgueddfa Cymru), a datblygu syniadau ar gyfer gemau llawn hwyl sy’n gweithio’r meddwl (TES Science).
Roedd y gynhadledd eleni yn bartneriaeth rhwng y Gymdeithas dros Addysg Gwyddoniaeth Cymru ac Amgueddfa Cymru. Hon oedd y bedwaredd flwyddyn a mynychodd athrawon o Gymru a Lloegr (a hyd yn oed Awstralia eleni!).
Cadwch lygad am fanylion cynhadledd y flwyddyn nesaf – gobeithiwn eich gweld chi yno!
categorïau
Pob cofnod
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr








Gadael sylw