Digon yn digwydd!
Fel y gallwch ddychmygu, mae wedi bod yn amser prysur ym mhob un o'n safleoedd gan ei bod yn wyliau ysgol. Mae'n wych gweld yr holl amgueddfeydd yn llawn o bobl, ac ers mynediad am ddim, mae'n golygu bod ymweld ag amgueddfa genedlaethol yn fforddiadwy ar gyfer yr holl deulu. Rydym wedi bod yn brysur gyda digwyddiadau hefyd , megis ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Roedd yr haul yn tywynnu ar y rhan fwyaf o ddyddiau, ac roedd yna awyrgylch hyfryd. Roedd gan yr Amgueddfa stondin, ac roedd llawer o ddiddordeb yn yr arddangosfa oedd gennym yn ymwneud â'r ardal. Roedd yn gyfle i ni annog ymwelwyr i ymweld â'r amgueddfa yn Wrecsam, lle mae gennym arddangosfa, yn ogystal ag ymweld â phob un o'r Amgueddfeydd Cenedlaethol. Er mai prif ffocws yr wythnos oedd ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch ailddatblgyiad Sain Ffagan, cawsom hefyd lansiad llwyddiannus o'r rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn Glo. Roedd y Gweinidog, Huw Lewis, yn bresennol fe wnaeth ein helpu i lansio'r cylchgrawn. Mae'r ymateb i'r cynnwys wedi bod yn wych. Mae cael presenoldeb mewn digwyddiadau cenedlaethol megis yr eisteddfod yn hanfodol i'n gwaith, gan ei fod yn caniatáu i bobl nad ydynt yn byw yn agos at unrhyw un o'n safleoedd i brofi'r casgliadau cenedlaethol a chymryd rhan yn ein gwaith.
Ar fy ffordd yn ôl o Wrecsam, ymwelais ag Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion. Roeddwn wedi fy rhyfeddu gan y ffordd y mae'n llwyddo i adrodd hanes gwleidyddol o safbwynt y bobl. Mae'r graffeg yn gweithio'n arbennig o dda, a roddodd rhai syniadau imi ar gyfer ailddatblygiad Sain Ffagan.
Roeddem hefyd yn freintiedig iawn i allu croesaw artistiaid o Chongqing yn Tsieina yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o wythnos Chongqing yng Nghymru. Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol yma hefyd, ac roedd yn wych cwrdd â ffrindiau o Tsieina oedd wedi helpu gyda'r arddangosfa Dazu yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd ein ymwelwyr wrth eu boddau gyda gwaith yr artistiaid yn ogystal â'r arddangosfa o luniau. Y gobaith yw y bydd hyn yn ddigwyddiad blynyddol, ac rydym yn gobeithio croesawu artistiaid eraill o Chongqing yn y dyfodol.
categorïau
Pob cofnod
cofnodion diweddar
Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2012
New bus & improved cycle track for St Fagans








Gadael sylw