categorïau
Pob cofnod
archifau
Mawrth 2010
Taith Gerdded Duduraidd
I aros pryd, dyma luniau newydd yr hoffwn i eu rhannu hefo chi.
Os yw'r lluniau wedi'ch ysbrydoli, ewch draw i'r dudalen ddigwyddiadau i archebu lle ar ein taith gerdded Duduraidd. Bydd y daith ar y 20ed o Fawrth, a byddwn yn ymweld ag uchafbwyntiau Tuduraidd Sain Ffagan. Cewch gyfle i ymchwilio gwrthrychu replica, yn ogystal ag arogleuon Tuduraidd - rhai da a rhai drwg! Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar y daith, felly cofiwch archebu eich lle o flaen llaw.
Gobeithio y gwela i chi yno!
Mwy o luniau o'r cert celf dros hanner tymor
Cert Celf - Dydd Gwyl Dewi Sant
Chwefror 2010
1950s designs
The half term workshops looked at pattern and design from the 1950s (which tied in with the current Italians in Wales exhibition). We looked at numerous examples of design from Italy (such as Bruno Munari) and other famous designers such as Lucienne Day as well as clothing and fabrics from our collection.
Taking these patterns as inspriation everyone created fantastic artwork using collage and print (potato prints, monoprints and stencils) and some of the pictures that were made are shown below.
More pictures to come!
Fesul dipyn, mae’r egin yn dod…
Yn gynnar yn Rhagfyr roedden ni’n edrych ymlaen i gael gwanwyn cynnar, ond yna daeth y tywydd oer i arafu pethau. Nawr, gyda’r tymheredd yn codi’n araf, mae gwyddonwyr yr ysgolion yn adrodd am arwyddion newydd o’r gwanwyn ledled Cymru! Mae fy egin innau wedi dechrau dod i’r golwg hefyd!
Yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth, Abertawe. Roedd disgyblion wrth eu bod eu bod wedi ffeindio crocysau, cennin Pedr a bylbiau dirgel yn pipio drwy’r pridd. Fe’u synnwyd cymaint roedd eu hegin yn amrywio mewn maint, ac roeddynt wrth eu bodd yn cofnodi manylion y tymheredd a’r glaw.
Ar y fferm y Really Welsh, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ffermwyr wedi dechrau pigo cennin Pedr a’u hanfon i bob cwr o dde Cymru. Meddent: 'Does dim llawer iawn ohonynt ar hyn o bryd i ddweud y gwir, rydyn ni’n siomedig iawn pa mor araf mae’r cennin Pedr yn tyfu eleni. Rydyn ni tua 5 wythnos ar ei hol hi ar gyfer y mathau cynharaf, ac yn croesi’n bysedd y bydd gyda ni ddigonedd o gennin Pedr ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi’.
- Enillwch drip i un o ffermydd y cwmni Really Welsh
- Cystadleuaeth tynnu llun o Gennin Pedr
- Cylchlythyr
- Syniadau ar gyfer ymchwilio
Blog Bylbiau Athro’r Ardd:
20/02/10 Agorodd fy nghrocws heddiw! Daeth eginyn y blodyn cyntaf i’r golwg, yna, pan ddaeth yr haul allan amser cinio - agorodd y blodyn. Roedd y lliwiau’n anhygoel, petalau piws llachar a brigerau a stigma oren llachar. Mae’n braf iawn cael ychydig o liw yn yr ardd o’r diwedd. Yn hwyrach yn y prynhawn, wrth i’r heulwen ddiflannu, caeodd y blodyn eto. Byddaf yn rhoi’r lluniau ar y wefan fory. Ydy’ch crocws chi’n gwneud hyn? Beth am roi cynnig ar rai o fy syniadau ymchwilio i? Gweler y ddolen isod.
15/02/10 Mae egin fy nghennin Pedr a’r crocysau wedi dechrau dod drwodd. Nid ydynt ddim talach na 2cm, sydd yn eithaf bach am yr amser yma o’r flwyddyn. Yn 2008, pan oedd y gaeaf yn fwyn, roedd blodau fy nghrocws eisoes wedi agor ac roedd y cennin Pedr yn 11cm o daldra!
Pa egin yw pa un? Mae gan egin cennin Pedr flaenau llyfn, gwyrdd golau. Maent yn llawer lletach na blaenau’r crocysau. Mae gan egin y crocws egin main, pigog sy’n ymddangos mewn clystyrau o bump fel arfer. Mae ganddynt ymylon gwyrdd tywyll - sy’n eu gwneud i edrych ychydig yn streipïog.
Creative art workshop
We've been making amazing prints and collages throughout the week. I'll put up all the rest of the work next monday and tuesday! Thank you to everyone who came to the workshops and I hope you enjoyed them!
Trysor Cudd
Cyn i mi fynd ymhellach, gai esbonio mai llosgwr arogldarth, neu incense yn Saesneg, yw thuseur. Mae'n siâp cawg, ac wedi'i gysylltu at gadwyn, i'r arogldarth gael ei chwifio 'nôl a mlaen. Caiff arogldarth ei ddefnyddio mewn eglwysi, temlau, ac allorau ar hyd a lled y byd hyd heddiw. Mae'r aroglau cryfion hyn yn gallu bod yn rhan bwysig o brofiad yr addolwr o adeilad, neu fan, sanctaidd. Byddwn yn clywed o hyd sut 'mae synnwyr arogl yn gallu agor rhannau cyfrin o'r cof. Mae'r gymysgedd o Thus, Myrr ac olewau sitrws a gaiff eu llosgi mewn llawer o Eglwysi Catholig yn gymysgedd o aroglau trymion, a rhai ohonynt wedi eu defnyddio mewn seremonïau a phersawrau ers oes yr Eifftiaid a thu hwnt. Er nad yw'r arogl yn deffro cymaint o atgofion â bara ffres, neu mothballs, mae'r arogl gyfoethog yn medru arwain y dychymyg ar drywydd troellog yn ôl drwy hanes.
Nawr, cyn mod i'n dechre swnio'n rhy debyg i hysbyseb shampŵ, gadewch i mi gyfadde': rwy'n sgut am arogldarth. Dim unrhyw arogldarth chwaith. Fe fyddai'n cerdded yn ffroenuchel heibio'r conau a'r brigau llachar ac yn anelu am yr ystor (resin). Caiff ystor ei gasglu, gan amla, ar ffurf nodd (sap) o goed arbennig. Mae gan bob math ei nodweddion a'i hanes unigryw. Mae Thus yn debyg i ddagrau ambr, meddal. Myrr, wel, mae hwnnw'n debycach i hen gragen pili-pala. Mae Damar, ar y llaw arall, yn edrych fel pear drops ac yn arogli fel neithdar a sitrws ysgafn...
Ta waeth am hynny - 'nôl at y thuseur! Mae'n un ni yn replica, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Eglwys Teilo Sant. Rydym ni wedi gwneud arbrofion yn y gorffennol, ac wedi cael ymateb positif a negyddol. Roedd rhai yn credu bod yr arogl yn ychwanegu at lonyddwch yr adeilad. Rhuthrodd rhai yn syth allan trwy'r drws ar ôl dechrau peswch. Nododd rhai eu bod yn teimlo'n anghyfforddus, efallai oherwydd eu daliadau crefyddol personol. Fe fyddwn ni'n defnyddio'r thuseur newydd pan fyddwn ni'n ceisio ail-greu ein gwasanaeth Tuduraidd cyntaf eleni (mwy am hynny rywbryd eto...). Byddwn hefyd yn defnyddio cerddoriaeth o'r cyfnod a litwrgi Lladin, i weld a allwn ni ail-greu naws gwasanaeth eglwysig Cymreig ym 1500.
Yr unig drafferth ar hyn o bryd yw'r ffaith fod y Curadur a gomisiynodd y thuseur ar ei wyliau. Mae'r parsel mawr yn eistedd yn yr ystafell ddur. Dwi'n ceisio bod yn ddisgybledig a pheidio â phipio y tu fewn. Byddai hyn yn reit anodd, ta beth, am nad oes allweddi gennyf. Bydd rhaid i ni aros, felly, tan ddydd Llun i'w agor. Fe fyddaf yn recordio'r cyfan, felly cofiwch alw 'nôl i gael golwg arno!
Adnoddau Tuduraidd Newydd
Pecyn Tuduraidd yn Gymraeg (ffeil .pdf)

Cynlluniwyd yr adnodd yn bennaf ar gyfer ymwelwyr o ysgolion cynradd, ond maen nhw'n llawn darluniau a syniadau a fyddai'n addas ar gyfer teuluoedd hefyd.
Mae'r adnoddau wedi eu cynllunio ar gyfer defnydd ar y safle, ac ar ôl ymweliad ag adeiladau Tuduraidd safle Sain Ffagan.
Yn sesiynau hyfforddi athrawon yr Adran Addysg, fe fuom ni'n casglu adborth ar y cynnwys. 'Dyn ni wastad yn falch o glywed rhagor, fodd bynnag. Pa fath o adnoddau i ddysgwyr (o bob llun a phob siâp) hoffech chi eu gweld ar gael yma?
Fe fues i a Darren y ffotograffydd i fyny i Eglwys Teilo Sant y bore 'ma, i dynnu lluniau o wrthrychau Tuduraidd ar gyfer llyfr lluniau i blant. Rwy'n edrych 'mlaen i gael gweld beth fydd ein dylunwyr yn ei wneud gyda'r lluniau, a pha olwg fydd ar y llyfr ei hun yn y diwedd. Mi wnai'n siwr fy mod yn ei grybwyll yn fama, pan fydd yn barod!
I'r rhai ohonoch sydd eisiau mwy o wybodaeth am yr arlwy sydd ar gael yn barod i ysgolion cynradd, dyma daflen ddefnyddiol: Cyfleoedd i Ysgolion Cynradd (ffeil .pdf)
