Staff
Dr. Ray Tangney: Pennaeth Planhigion Isel
Arbenigedd
Tacsonomeg, esblygiad ac ecoleg bryoffytau (mwsogl a llysiau'r afu), dadansoddi esblygiad, systemeg foleciwlaidd.
Prosiectau cyfredol
- Tacsonomeg, esblygiad a bioddaearyddiaeth y teulu Lembophyllaceae o fwsogl.
- Tacsonomeg ac esblygiad y rhywogaeth Isothecium.
- Cynllun a ffurfiau tyfu mwsoglau.
- Triniaethau tacsonomaidd y Polytrichaceae a Lembophyllaceae ar gyfer Fflora Mwsog Seland Newydd.
Am ragor o wybodaeth am y prosiectau ymchwil hyn, gweler y dudalen ar Brosiectau Ymchwil Bryoffytau.
Ffôn: +44 (0)29 2057 3303
E-bost: Ray Tangney
Alan Orange: Curadur (Cen)
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar y teulu o gennau a elwir yn Verrucariaceae. Gwyddom am ryw 150 o rywogaethau ym Mhrydain a channoedd ledled y byd, yn enwedig mewn rhanbarthau oer a thymherus. Maent fwyaf helaeth ar galchfaen, ar gerrig gwlyb yn ymyl nentydd ac ar lan y môr. Mae rhai ohonynt yn barasitiaid ar gennau eraill. Yn aml, mae'n anodd adnabod un rhywogaeth o'r llall, ac mae pobl wedi drysu llawer rhyngddynt. Fy nod i yw defnyddio DNA fel dull newydd o astudio'r grŵp hwn, gan roi sail gadarn i'n gwybodaeth am y cennau cyffredin hyn. Prosiectau cyfredol
- Verrucaria Dŵr Ffres
- Y grwpiau Verrucaria dolosa a Verrucaria murina
- Tacsonomeg Rhywogaethau 'brown' o Verrucaria ym Mhrydain
- Verrucariaceae o Nepal
- Adolygiad byd-eang o Verrucariaceae Am ragor o wybodaeth am y prosiectau ymchwil hyn, gweler y dudalen ar Brosiectau Ymchwil Cen.
Ffôn: +44 (0)29 2057 3264
E-bost: Alan Orange
Dr. Ingrid Jüttner: Curadur Ymchwil (Diatomau)
Arbenigedd
Ecoleg a thacsonomeg diatomau, ecoleg dyfrol.
Prosiectau cyfredol
- Diatomau fel dangosyddion ansawdd dŵr (asideiddio, ewtroffeiddio, llygredd organig) yn nentydd, afonydd, llynnoedd a phyllau Cymru.
- Tacsonomeg a bioddaearyddiaeth diatomau yng Nghymru.
- Ecoleg, bioddaearyddiaeth a thacsonomeg diatomau yn nentydd, afonydd, llynnoedd, pyllau, ffynhonnau a chynefinoedd daearol Nepal. Am ragor o wybodaeth am y prosiectau ymchwil hyn, gweler y dudalen ar Brosiectau Ymchwil Diatomau.
Cyhoeddiadau gan Ingrid Jüttner
Ffôn: +44 (0)29 2057 3127
E-bost: Ingrid Jüttner
Katherine Slade: Swyddog Rheoli a Mynediad i Gasgliadau (Planhigion Isel)
Mae'n cyflawni gwaith curadur, cofnodi data, dadansoddi data a gwella mynediad i'r casgliadau Planhigion Isel. Yn ddiweddar, cwblhaodd brosiectau ar y cyd sef y Catalog o Sbesimenau Sphagnum Amgueddfa Cymru a'r Rhestr Wirio o dacsonau bryoffytau Amgueddfa Cymru. Mae gwaith cyfredol yn cynnwys gweithio ar y Catalog o Sbesimenau Bryoffytau Cymreig.
Cyhoeddiadau gan Katherine Slade [LINK to email]
Ffôn: +44 (0)29 2057 3345
E-bost: Katherine Slade







