Staff
[delwedd: Staff]
Gwybodaeth am y Casgliadau a Benthyciadau
Harriet Wood: Rheolwr y Casgliad (Molysgiaid)
Mae Harriet yn rheoli'r casgliad molysgiaid sy'n cynnwys ymdrin ag ymwelwyr, benthyciadau, caffaeliadau ac ymholiadau. Hi yw cydawdur y llyfr ‘The new molluscan names of César-Marie-Felix Ancey'. Ymhlith ei diddordebau mae: astudiaethau tacsonomaidd am ficro-gastropodau morol Cefnfor India; ymchwil i'r casgliadau hanesyddol; delweddu deunydd teip; ymholiadau cyffredinol ar folysgiaid dŵr croyw Prydain a'r project SCAN ar y falwen wregysog Hygromia cinctella.
Ffôn: +44 (0)29 2057 3244
E-bost Harriet Wood
Jennifer Gallichan: Cynorthwy-ydd Curadurol (Molysgiaid)
Curadu'r casgliad o folysgiaid. Hi yw cydawdur ‘The new molluscan names of César-Marie-Felix Ancey' ac ar hyn o bryd mae'n cynorthwyo Ben Rowson ar y project ‘Molysgiaid tir Dwyrain Affrica'. Ymhlith ei diddordebau mae: ymholiadau cyffredinol am folysgiaid tir gan gynnwys delweddu deunydd teip, ymchwil i gasgliadau hanesyddol, archif gohebiaeth Tomlin a'r llyfrgell molysgiaid.
Cyhoeddiadau gan Jennifer Gallichan
Ffôn: +44 (0)29 2057 3217
E-bost Jennifer Gallichan
Molysgiaid Tir
Dr. Ben Rowson: Cynorthwy-ydd Ymchwil (Molysgiaid)
Arbenigwr ym maes molysgiaid tir. Ymhlith ei ddiddordebau mae esblygiad, systemateg ac amrywiaeth molysgiaid tir Dwyrain Affrica, ac yn benodol y teulu o falwod tir cigysol Streptaxidae. Yn ogystal, hanes natur ffawna gwlithod a malwod Prydain gan gynnwys lledaeniad rhywogaethau a gyflwynwyd i'r wlad.
Ffôn: +44 (0)29 2057 3110
E-bost Ben Rowson
Molysgiaid Dŵr Croyw a Morol
Dr P. Graham Oliver: Pennaeth Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol
Arbenigwr ym maes systemateg a morffoleg weithredol dwygragenogion (molysgiaid) morol a dŵr croyw. Gweld See
Cyhoeddiadau gan Graham Oliver
Ffôn: +44 (0)29 2057 3221
E-bost Graham Oliver
Anna Holmes: Curadur (Deufalfiaid)
Arbenigydd ym maes tacsonomeg dwygragenogion morol. Anna oedd cyd-olygydd trafodion gweithdai morol Rodrigues (Cefnfor India) ac mae hi wedi ysgrifennu papurau ar ddwygragenogion morol y Môr Tawel, Môr Iwerydd a Chefnfor India. Prif broject ar hyn o bryd: paratoi canllaw adnabod ar-lein ar ddwygragenogion morol Ynysoedd Prydain, o'r rhynglanwol i'r dyfnforol.
Ffôn: +44 (0)29 2057 3343
E-bost Anna Holmes