Gwasanaethau
[delwedd: Cambrensis Clydach]
Benthyciadau
Gellir benthyg casgliadau i sefydliadau cydnabyddedig neu weithwyr ymchwil dilys am 6 neu 12 mis ar gais. Mae amodau benthyg llawn ar gael ar gais.
Cysylltwch â Dr Tim Rich
Ebost: Tim Rich
Ffôn: (029) 2057 3218
Gwasanaethau adnabod
Mae gwasanaeth adnabod di-dâl ar gael i’r cyhoedd ar gyfer nifer fach o blanhigion. Rydym yn arbenigo ym mlodau gwyllt Ynysoedd Prydain yn bennaf; ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am blanhigion a dyfir ar gyfer yr ardd neu’r tŷ, ac rydym yn argymell y dylid anfon y rhain at arbenigwyr eraill fel y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.
Mae gwasanaeth adnabod masnachol ar gael am isafswm o £30 am 30 munud, a £60 yr awr wedyn.
Cysylltwch â Dr Tim Rich
Ebost: Tim Rich
Ffôn: (029) 2057 3218
Gwirfoddoli
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr naill ai i helpu curadu ein casgliadau neu i ymgymryd â phrojectau ymchwil penodol.
Cysylltwch â Dr Tim Rich
Ebost: Tim Rich
Ffôn: (029) 2057 3218