Anifeiliaid ag Asgwrn Cefn
[delwedd: Barcud Coch]
Astudiaeth o anifeiliaid sydd ag asgwrn cefn yw Söoleg Fertebriaid. Rhyw 50,000 yn unig o wahanol fathau o fertebriaid sydd i'w cael, nifer fechan iawn o gymharu â'r miliynau o wahanol fathau o infertebriaid - anifeiliaid heb asgwrn cefn - a phlanhigion.
Er gwaethaf hyn ac am eu bod yn tueddu bod yn fawr, yn amlwg, ac yn aml yn atyniadol, mae fertebriaid fel morfilod, y cathod mawr ac adar yn cael llawer rhagor o sylw gan y cyhoedd na'r lleill i gyd.
Golyga'r poblogrwydd hyn fod fertebriaid, i raddau llawer mwy nag anifeiliaid a phlanhigion eraill, yn dod yn symbolau ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â phynciau amgylcheddol. Y poblogrwydd yma sydd hefyd yn eu gwneud yn rhan bwysig o'r amgueddfa hon.