Archwiliadau Bioamrywiaeth
Mae bioamrywiaeth yn greiddiol i ddatblygiad cynaliadwy sy’n sail i ddatblygiad a llwyddiant economaidd. Mae ganddo rôl bwysig i’w chwarae wrth ddatblygu cymunedau gwahanredol lleol a chynaliadwy.
O 1 Hydref 2006, mae wedi bod yn Ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr i ystyried cadwraeth bioamrywiaeth wrth eu gwaith. Nod y Dyletswydd yw codi proffil bioamrywiaeth, gloywi ymrwymiadau presennol yn ymwneud â bioamrywiaeth a’i wneud yn rhan annatod a naturiol o bolisïau a phenderfyniadau.
Caiff y Dyletswydd ei amlinellu yn Adran 40 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 sy’n datgan: "Every public authority must, in exercising its functions, have regard, so far as is consistent with the proper exercise of those functions, to the purpose of conserving biodiversity".
Fel rhan o ymateb yr Amgueddfa i’r ddeddf hon, cynhaliwyd archwiliadau bioamrywiaeth ym mhob un o safleoedd Amgueddfa Cymru. Cwblhawyd yr archwiliadau drwy ddefnyddio arbenigedd staff yr Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cynhaliwyd arolwg cynefin Rhan 1 ym mhob un o’r amgueddfeydd, y system safonol o ddosbarthu a mapio cynefinoedd bywyd gwyllt ym Mhrydain. Darparodd yr arolygon wybodaeth am natur, lleoliad ac ehangder y mathau o gynefinoedd ym mhob safle.
Gellir defnyddio canlyniadau’r arolwg cynefin Rhan 1 i bennu pa ardaloedd sy’n addas ar gyfer arolwg manylach, pennu ardaloedd gwerthfawr sydd angen cadwraeth antur, ac fel man cychwyn i fonitro newid yn y dyfodol.
Cynhaliwyd archwiliadau ychwanegol hefyd gan edrych yn fanylach ar y rhywogaethau sydd i’w gweld yn lleoliadau’r Amgueddfa. Mae esiamplau yn cynnwys amrywiaeth y chwilod yng nghoed Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac amrywiaeth y corynnod yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.
Gellir gweld yr arolygon Cynefin ac adroddiadau eraill yma.