Ymweld - Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Lleoliad
Cyfeiriad
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Blaenafon, Torfaen
NP4 9XP
Ffôn: (029) 2057 3650
Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333
Ffacs: (029) 2057 3668
Ar agor
Ar agor pob dydd 9.30 am - 5pm.
Mynediad olaf 4pm. Teithiau dan ddaear 10am - 3.30pm.
Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd i lawr i'r pwll. Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Cofiwch wisgo dillad cynnes ac esgidiau synhwyrol.
Mae teithiau sain ar gael.
MYNEDIAD AM DDIM
Parcio ceir: £2 y car y dydd.
Sylwer: yn ystod mis Ionawr bydd y teithiau dan ddaear yn cael eu cynnal ar y penwythnosau'n unig.
Grwpiau
Gall grwpiau sy'n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:
- Fynediad am ddim
- Gostyngiad o 10% yn y Cantin a'r siop goffi os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
- Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5
- Teithiau tywys am ddim
- Teithiau tu ôl i'r llenni ac arddangosiadau cadwraeth ar gais
- Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau
Gofynnwch wrth y Dderbynfa am eich cynllun o'r safle a'ch talebau er mwyn sicrhau y caiff eich gr?p y gostyngiadau perthnasol yn y siop a'r caffi.
Gwelwch ein Llyfryn Ymweliadau Gr?p ynglyn a saith amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.
Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a'r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Ble ydyn ni
Os oes gennych chi offer llywio â lloeren, teipiwch Blaenafon (Blaenavon) a dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown ar ôl i chi gyrraedd y dref.
M4 — dilynwch yr arwyddion Twristiaeth brown o C25a (tua'r gorllewin) neu C26 (tua'r dwyrain). Mae arwyddion oddi ar yr A465 yn y Fenni a Brynmawr hefyd.
Mae bysiau'n rhedeg o Gasnewydd bob dydd (dydd Llun i ddydd Sadwrn), rhif 30.
Amserau'r bysiau o Gasnewydd: 8.45 am; 10.45 am; 12.45 pm ; 2.45 pm.
Bws nôl o Big Pit: 11.27am; 1.27pm; 3.27pm; 5.27pm.
- Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd i lawr i'r pwll.
- Mae'r teithiau danddaear yn para tua awr.
- Mae'n bosib na fydd teithiau dan ddaear ar gael am ran o'r diwrnod yn ystod cyfnodau prysur er mwyn clirio unrhyw giw sydd wedi datblygu. Ffoniwch yn ystod y gwyliau i weld faint o le sydd ar gael.
- Ffoniwch 01495 790 311 i holi a yw'r teithiau danddaear (10am-3.30pm) ar gael yn Rhagfyr ac Ionawr.
- Dylech adael tair i bedair awr ar gyfer eich ymweliad.
- Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau cadarn.
- Dylai grwpiau o dros ddeg o bobl fwcio ymlaen llaw.
- Mae canllaw 'Cynllunio Eich Ymweliad' ar gael ar gyfer grwpiau.
- Dylai plant dan un ar bymtheg oed fod yng nghwmni oedolyn drwy'r amser.
- Dylai pobl mewn cadair olwyn fwcio teithiau danddaear ymlaen llaw.
- Mae Canllaw Mynediad ar gael i'w lawrlwytho neu ffoniwch (029) 2057 3650 i gael copi.