Ymweld Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Lleoliad

Cyfeiriad

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Blaenafon, Torfaen
NP4 9XP

Ffôn: (029) 2057 3650
Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

Ffacs: (029) 2057 3668

Email us

Ar agor

Ar agor pob dydd 9.30 am - 5pm.
Mynediad olaf 4pm. Teithiau dan ddaear 10am - 3.30pm.

Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd i lawr i'r pwll. Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Cofiwch wisgo dillad cynnes ac esgidiau synhwyrol.

Mae teithiau sain ar gael.

Lawrlwythwch fap o'r safle

MYNEDIAD AM DDIM

Parcio ceir: £2 y car y dydd.

Sylwer: yn ystod mis Ionawr bydd y teithiau dan ddaear yn cael eu cynnal ar y penwythnosau'n unig.

Grwpiau

Gall grwpiau sy'n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:

  • Fynediad am ddim
  • Gostyngiad o 10% yn y Cantin a'r siop goffi os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
  • Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5
  • Teithiau tywys am ddim
  • Teithiau tu ôl i'r llenni ac arddangosiadau cadwraeth ar gais
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau

Gofynnwch wrth y Dderbynfa am eich cynllun o'r safle a'ch talebau er mwyn sicrhau y caiff eich gr?p y gostyngiadau perthnasol yn y siop a'r caffi.

Gwelwch ein Llyfryn Ymweliadau Gr?p ynglyn a saith amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a'r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Lleoliad ar Multimap.co.uk

Lleoliad ar Streetmap.co.uk

Ble ydyn ni

Os oes gennych chi offer llywio â lloeren, teipiwch Blaenafon (Blaenavon) a dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown ar ôl i chi gyrraedd y dref.

M4 — dilynwch yr arwyddion Twristiaeth brown o C25a (tua'r gorllewin) neu C26 (tua'r dwyrain). Mae arwyddion oddi ar yr A465 yn y Fenni a Brynmawr hefyd.

Mae bysiau'n rhedeg o Gasnewydd bob dydd (dydd Llun i ddydd Sadwrn), rhif 30.

Amserau'r bysiau o Gasnewydd: 8.45 am; 10.45 am; 12.45 pm ; 2.45 pm.
Bws nôl o Big Pit: 11.27am; 1.27pm; 3.27pm; 5.27pm.

  • Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd i lawr i'r pwll.
  • Mae'r teithiau danddaear yn para tua awr.
  • Mae'n bosib na fydd teithiau dan ddaear ar gael am ran o'r diwrnod yn ystod cyfnodau prysur er mwyn clirio unrhyw giw sydd wedi datblygu. Ffoniwch yn ystod y gwyliau i weld faint o le sydd ar gael.
  • Ffoniwch 01495 790 311 i holi a yw'r teithiau danddaear (10am-3.30pm) ar gael yn Rhagfyr ac Ionawr.
  • Dylech adael tair i bedair awr ar gyfer eich ymweliad.
  • Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau cadarn.
  • Dylai grwpiau o dros ddeg o bobl fwcio ymlaen llaw.
  • Mae canllaw 'Cynllunio Eich Ymweliad' ar gael ar gyfer grwpiau.
  • Dylai plant dan un ar bymtheg oed fod yng nghwmni oedolyn drwy'r amser.
  • Dylai pobl mewn cadair olwyn fwcio teithiau danddaear ymlaen llaw.
  • Mae Canllaw Mynediad ar gael i'w lawrlwytho neu ffoniwch (029) 2057 3650 i gael copi.

Llety

www.visitwales.co.uk

www.iknow-wales.co.uk

www.stayinwales.co.uk

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.