Teuluoedd - Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae Big Pit yn cynnig teithiau tanddaearol i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn.
Rhaid i blant fod yn fetr o daldra i fynd dan ddaear. Mae'r daith danddaearol yn para tua 50 munud gyda ymwelwyr yn cerdded tua 700 llath gan wisgo helmet a lamp sy'n pwyso 5 cilogram.
Mae'r Orielau Glofaol yn dangos sut y cloddir am lo heddiw, a bydd y plant yn siŵr o fwynhau y synau a'r fflachiadau cymaint â neb o'r teulu.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau darganfod a phecynnau gweithgaredd (arbennig o addas i blant ifanc), sydd ar gael am ddim drwy wneud cais yn y Dderbynfa.
Mae rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn ystod gwyliau ysgol yn cynnwys gweithgareddau crefft, adrodd straeon a gwisgo fel glowyr bach.
Digwyddiadau i'r Teulu
Digwyddiadau
Digwyddiadau
| Dyddiad | Digwyddiad | Manylion |
| 22 Gor–2 Awst | Pythefnos y Glowyr: Halen y Môr, Tywod a Llwch glo | Teuluoedd / Am ddim |
| 27 Gor | Diwrnod Dathlu | Teuluoedd / Am ddim |
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau newid babi ar gael ym mhob toiled.
Siop yr Amgueddfa
Darperir detholiad pwrpasol o deganau plant ac ystod eang o lyfrau, printiau a chardiau post.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser








