Gwir Brofiad Dan Ddaear Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Taith
Arddangosfa

Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

Gyda chyfleusterau i addysgu a diddanu pobl o bob oedran, mae'r Pwll Mawr yn cynnig diwrnod cyffrous ac addysgiadol i'r teulu cyfan.

Mwynhewch daith aml-gyfrwng gyffrous o gwmpas pwll glo modern gyda rhith-löwr yn Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y Baddonau Pen Pwll ac Adeiladau lofa hanesyddol sydd ar agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Hyn oll, a'r Taith dan ddaear fyd-enwog. Teithiwch 300tr lawr i grombil y ddaear gyda glöwr go iawn i weld sut beth oedd bywyd i'r miloedd o ddynion oedd yn gweithio yn y pyllau glo.

Daeth Big Pit yn rhan o Amgueddfa Cymru ar 1 Chwefror 2001. Wedi ailddatblygu mawr, ail-agorodd yn 2004 ac yn syth, enillodd Wobr Gulbenkian fel Amgueddfa'r Flwyddyn.

Troes yr ailddatblygu nodweddion gwreiddiol, fel baddondai'r pwll, yn arddangosfeydd newydd sydd yn chwythu anadl einioes i fywyd y lofa. Er hynny, mae'n debyg mai ei nodwedd enwocaf o hyd yw'r daith yng nghwmni cyn-löwr 90 metr i grombil y ddaear.

Saif Big Pit fry ar rosydd grugog Blaenafon. Mae'r Amgueddfa Genedlaethol arobryn hon wedi cadw sawl nodwedd o'i bywyd blaenorol fel pwll glo. Heddiw, mae'r twneli a'r adeiladau lle arferid clywed seiniau'r glowyr wrth eu gwaith yn llawn synau camau a chleber ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

Lleolir yr amgueddfa yn nhirwedd ddiwydiannol unigryw, a ddyfarnwyd yn Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO ym 2000 i gydnabod pwysigrwydd ei chyfraniad rhyngwladol i'r broses ddiwydiannu trwy gynhyrchu haearn a glo. 

Mae Big Pit yn atgof byw o'r diwydiant glo yng Nghymru a'r bobl a'r gymdeithas a grëwyd yn ei sgil.

Gweld ein Digwyddiadau yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Gwybodaeth

Map

Blaenafon, Torfaen
Ar agor pob dydd 9.30am–5pm. Mynediad olaf 4pm.

Ffôn:
(01495) 790 311

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales