Sue Williams

Sue Williams
Through Glass: ". . . no we r just good friends . . ."
(2005/06)
Credyd: Graham Matthews
© Sue Williams
Llawr Cyntaf, Oriel 16
Mae Sue Williams yn cyfaddef bod ei chelf yn adlewyrchiad ohoni hi ei hunan. Mae'n ail-greu profiadau mewn peintiadau mawr a darluniau bach. Er bod ei gweithiau'n awgrymu uniongyrchedd safbwynt personol, maen nhw'n edrych ar fyd ehangach o lawer o ran seicoleg, rhywioldeb a ffeindio'ch ffordd trwy fywyd fel menyw. Nid creu celf ffeministaidd yw ei nod, ond wrth fynegi barn ar fenyweidd-dra ac ar fod yn fenyw sy'n byw yn y byd sydd ohoni, mae'n cydnabod ei bod ei gosod ei hun yn yr un categori. Nid yw'n cilio rhag myfyrio ar y penbleth o fod yn fenyw yn y gymdeithas heddiw (Cymru a Phrydain yw ei chymdeithas), pan gellir dehongli nodweddion y rhyddid yma fel bod yn bryfoclyd, yn rhodresgar ac yn heriol.
Yn fwy traddodiadol, mae'r weithred o beintio a thynnu llun yn hanfodol i sut mae Sue Williams yn mynd ati i greu gwaith celf. Mae'n gweld darlunio fel gweithgaredd sy'n gadael iddi 'godi syniadau/delweddau o mhen yn gyflym'. Mae ei pheintiadau'n 8 troedfedd sgwâr, felly'n fwy na maint go iawn, ac mae ei harddull yn datgelu natur ffisegol y gwaith o'u creu. Mae'n rhoi geiriau, deunyddiau a phethau ar y cynfas i gyfoethogi'r ymdeimlad o'r ffisegol fel gweithiau celf ac fel adlewyrchiad o bethau bywyd.







