Subodh Gupta

Subodh Gupta
Curry
(2005)
© Subodh Gupta 2005
Orielau Arddangos Dros Dro, Llawr Gwaelod
Mae Subodh Gupta'n gweithio gyda phethau sy'n bodoli eisoes ac amrywiaeth o ddeunyddiau i greu arwyddluniau a symbolau o'r gymdeithas o'i gwmpas. Mae'n dewis pethau fel beiciau ac offer coginio, neu'n gwneud castiau o fagiau neu wartheg maint llawn fel symbolau cyfarwydd o fywyd pob dydd yn India. Wrth wneud hyn, mae'n cwestiynu sut mae rhai pethau'n cael eu cysylltu â diwylliant India a sut mae ei gymdeithas ei hun yn cael ei chynrychioli. Ar un llaw, mae'n eu cyflwyno fel ystrydebau deniadol, ac ar y llall, fel delweddau cryf o gymdeithas a diwylliant sy'n cael eu hestyn rhwng y gwledig a'r trefol, rhwng y lleol a'r cynyddol fyd-eang. Mae Gupta'n dychmygu byd sy'n bersonol ac yn gyhoeddus yr un pryd.
Cafodd Sudobh Gupta ei eni mewn ardal wledig yn Bihar, ond mae'n gweithio yn Delhi erbyn hyn. Mae'n gweithio o'i brofiad ei hun o'r gwahaniaethau mawr sy'n bodoli mewn gwlad sy'n cyfuno symlrwydd gwledig a diwydiant telathrebu soffistigedig, a lle mae tlodi mawr a dosbarth canol addysgedig yn cyd-fyw. Yn ei holl waith, mae mwy na beth welwch chi ar yr olwg gyntaf — yn eu symlrwydd, mae'r testunau mae e wedi eu ffeindio neu wedi eu creu, yn adlewyrchu cymhlethdodau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol India heddiw.







