Leandro Erlich

Leandro Erlich
Batiment
(2004)
Gosodwaith ar gyfer Nuit Blanche Hydref 2004 Paris
Credyd: Trwy garedigrwydd yr Artist
Orielau Arddangos Dros Dro, Llawr Gwaelod
Mae Leandro Erlich yn creu gweithiau celf sy'n herio'n syniadau am realaeth. Mae ganddo ddiddordeb yn y pethau rydyn ni'n eu gweld, y llefydd rydyn ni'n eu llenwi a'r cyd-destunau rydyn ni'n ein ffeindio'n hunain ynddynt bob dydd. Mae'n awgrymu 'mai'r peth rydyn ni'n ei gymryd yn ganiataol yw'r holl syniad o realaeth, am ein bod ni'n tybio bod realaeth yn rhywbeth sydd yno, sy'n ffaith ac yn ddigyfnewid . . .' Yn hytrach, mae'n teimlo mai'r 'gwirionedd yw bod realaeth yn rhywbeth sy'n dod i'n rhan, ac yn ffrwyth rhywbeth rydyn ni wedi ei saernïo ein hunain.'
Mae Erlich yn creu gosodweithiau neu fyd ffisegol cyflawn y mae'r gynulleidfa'n cael mynd iddo. Mae'n defnyddio pa bynnag ddeunyddiau adeiladu sydd eu hangen, gan gynnwys drychau a thafluniadau, i greu ffurfiau ar realaeth. Mae ei waith yn cysylltu'r holl synhwyrau bron, ac mae'n ein gwahodd ni i gymryd rhan, neu hyd yn oed i ryngweithio â'r mannau mae'n eu creu. Trwy wneud hyn, mae'n ein troi ni'n actorion ar lwyfan theatr hyfryd, yn profi naws sy'n rhannol real ac yn rannol ffug. Daw Leandro Erlich o'r Ariannin, ac wrth greu'r delweddau gofodol a seicolegol hyn, mae'n ei gysylltu ei hun â'r traddodiad mawr sy'n bodoli yn Ne America o adrodd straeon lle does dim byd yn union fel y mae'n ymddangos, gan orfodi'r gynulleidfa i ffrwyno eu synnwyr o realaeth.







