Thomas Demand

Thomas Demand
Studio
(1997)
© Thomas Demand, VG BildKunst, Bonn/DACS, London
Trwy garedigrwydd/Courtesy: Victoria Miro Gallery
Llawr 1af, Oriel 8 ac 9
Mae Thomas Demand yn ymddiddori yn y ffordd rydyn ni'n amsugno gwybodaeth a phrofiadau trwy'r cyfryngau, neu fel mae e'n ei ddweud – sut ‘mae pethau yn dod yn realaeth trwy ffotograffau'. Profiadau anuniongyrchol ydyn nhw, ac ni ellir eu dilysu, yn enwedig ers dyfodiad delweddau digidol. Mae Demand yn ymdrin â sut mae'r ffordd y cyflwynir delweddau'n i ni trwy ffotograffau, ffilm a theledu, yn cyflwyno digwyddiad o bwys, heb ddewis un fersiwn benodol o realiti.
Mae ei broses fel arfer yn dechrau wrth ddewis delwedd o'r wasg neu'r cyfryngau. Gall ddarlunio digwyddiad sy'n cynnwys elfennau o'i hanes cenedlaethol ei hun, sef yr Almaen o'r 1930au ymlaen, neu ddigwyddiad o bwys ehangach. Wedyn mae'n ail—greu'r olygfa'n fanwl yn ei stiwdio, ar ffurf model cardfwrdd a phapur maint llawn mewn tri—dimensiwn; a dweud y gwir mae'n creu pob math o ddefnydd – naturiol a synthetig, o'r rhain. Wedyn gyda chamera fformat mawr, mae'n tynnu ffotograffau eang o'r olygfa mae'n ei ail—greu.
Ond mae'r rhith yma'n datgelu ambell i dras o fath arall o realiti — ei wneuthuriad ei hun. Mae'r golygfeydd mae e'n eu cyflwyno'n syfrdanu ac yn cyfuno'r dystiolaeth ffeithiol ag ymdeimlad pwrpasol o'r artiffisial.







