Wu Chi-Tsung

Wu Chi-Tsung
Wire I
(2004)
© Wu Chi-Tsung
Orielau Arddangos Dros Dro, Llawr Gwaelod
Delweddau sy'n mynd â bryd Wu Chi-Tsung; sut maen nhw'n cael eu creu a sut rydyn ni'n eu gweld nhw. Mae ei waith hyd yn hyn wedi cynnwys ffotograffiaeth a fideo a'r prosesau sydd eu hangen i greu delweddau. Mae'n arbrofi gyda'r prosesau, gan ecsbloetio'r alcemi sy'n gynhenid i ffotograffiaeth gemegol, neu'n newid yr elfennau amseru sy'n gwneud ffilm yn gyfrwng ar gyfer symud.
Mae yna deimlad o eironi y tu ôl i'w waith – fod artist o Daiwan yn ymddiddori gymaint mewn dulliau mor draddodiadol o greu delweddau. Yn byw mewn byd technolegol soffistigedig, mae Wu Chi-Tsung yn ymhyfrydu mewn ffeindio ffyrdd, trwy hap bron, o gipio, neu ail-greu'r byd o'i gwmpas. Mae ei holl waith, y delweddau llonydd a symudol, yn defnyddio amser fel rhan annatod o'u gwneuthuriad, nid yn unig trwy'r confensiwn o agor a chau caead, ond trwy chwyldroi amser wrth greu'r delweddau. O bryd i'w gilydd mae'n difetha'r ffilm negatif wreiddiol yn fwriadol i bwysleisio mor amhosib yw troi'r cloc yn ôl ac ail-greu ennyd neu olygfa. O ganlyniad, mae naws ei ddelweddau'n aml yn dwyn i gof y ffordd fyddai lluniau'n cael eu creu ers lawer dydd.







