Eija-Liisa Ahtila

Eija-Liisa Ahtila
The House
(2002)
© Crystal Eye-Kristallisilmä Oy Trwy garedigrwydd: Marian Goodman Gallery, New York and Paris
Orielau Arddangos Dros Dro, Llawr Gwaelod
Artist gweledol a gwneuthurwraig ffilmiau medrus yw Eija-Liisa Ahtila. Mae'n cynhyrchu ffotograffau a fideos neu osodweithiau ffilm sy'n llenwi ac yn gwyrdroi orielau. Mae'n cyfuno gwrthrychedd rhywun sy'n creu rhaglenni dogfen â delweddau dychmygol seicolegydd. Mae'n disgrifio'i ffilmiau fel ‘dramâu dynol'. Mae manylion bywyd pob dydd, straeon am weithgareddau swrreal a thystiolaeth am gyflwr meddwl pobl yn cyfuno'n weledol i greu gweithiau sy'n cael eu cyfoethogi gan nodweddion sinemataidd a theledol cyfryngau'r artist.
Mae Eija-Liisa Ahtila'n gweithio yn Helsinki, y Ffindir. Dros y blynyddoedd mae hi wedi ymddiddori mewn pobl sy'n dioddef o wahanol fathau o salwch meddwl ac wedi ymchwilio i'r pwnc. Actorion sy'n perfformio ei naratif dychmygol, ond mae'n seilio'r cyfan ar gyfweliadau a sgyrsiau go iawn, ynghyd â'i phrofiadau a'i chof ei hun. Mae ei gwaith yn aml yn adlewyrchu canlyniadau digwyddiad pwysig, er nad yw'r gynulleidfa'n ymwybodol o'r holl gefndir. Mae llawer o'i gwaith yn myfyrio ar yr emosiynau sylfaenol sy'n sail i berthnasau pobl: cariad, cenfigen, dicter, gwendid neu rywioldeb. Mae sain, llais naratif, cerddoriaeth a haenau o amser oll yn cyfoethogi'r ymdeimlad o ddrama seicolegol ac yn tynnu'r gynulleidfa i mewn i fyd cymhleth lle daw realiti a ffuglen yn un.







