Artes Mundi
Mae Artes Mundi 2006 yn dilyn llwyddiant arddangosfa gyntaf Artes Mundi ddwy flynedd yn ôl. Mae'r wyth artist ar y rhestr fer oll yn delio â syniadau am y ffurf ddynol neu'r cyflwr dynol ac yn dathlu diwylliant gweledol o bedwar ban y byd. Dau guradur rhyngwladol, Deepak Ananth o India ac Ivo Mesquita o Frasil, sydd wedi llunio'r rhestr fer sy'n cynnwys artistiaid o lefydd mor bell â Thaiwan a'r Ariannin.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys peintiadau anferth, lluniau difyr, delweddau ffotograffig trawiadol a ffilmiau am ddrama ddynol neu drafodaeth ddogfennol. Mae pob artist yn gwneud sylw am y gymdeithas mewn ffordd wahanol a chan ddefnyddio deunyddiau gwahanol – boed i fyfyrio ar ymdeimlad o gartref a lle, perthnasau rhwng pobl ac emosiynau elfennol cariad a dicter, neu feddyliau pobl anhysbys sy'n byw ar gyrion y gymdeithas.
Ddiwedd Mawrth 2006, bydd pum Beirniad rhyngwladol blaenllaw yn penderfynu pwy fydd yn ennill un o wobrau mwyaf y byd i un artist – £40,000. Mae £30,000 pellach yn cael ei ryddhau i brynu gweithiau ar gyfer y casgliadau cenedlaethol.
Bydd rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus ac addysg fywiog yn cyd-fynd ag Artes Mundi ynghyd â chyfres o raglenni a gaiff eu darlledu gan BBC Cymru.
I gael mwy o wybodaeth, ymweld â www.artesmundi.org.







