Cyflwyniad

Roman soldier

Croeso i Adran Archaeoleg a Nwmismateg Amgueddfa Cymru.

Ers dros saith deg a phump o flynyddoedd bu'r Adran yn casglu tystiolaeth am fywyd a marwolaeth yng Nghymru, gan gynnwys pethau mor wahanol â dannedd mamoth, llongddrylliadau, darnau arian Celtaidd a phelenni canon. Gyda'i gilydd, mae'n nhw'n creu darlun o archaeoleg a hanes Cymru o'r cyfnod cynharaf mewn ogofâu 250,000 o flynyddoedd yn ôl, hyd at ddechrau'r chwyldro diwydiannol.

Roman pottery

Yn ogystal ag astudio'r gweddillion hyn er mwyn deall mwy am darddiad Cymru, mae'r Adran yn ceisio cyflwyno'r darganfyddiadau hyn i wahanol gynulleidfaoedd — grwpiau ysgol, ymwelwyr â'r amgueddfa, pobl dros y we, cymdeithasau cenedlaethol ac academyddion.

Er mwyn bwrw'r maen i'r wal, rydyn ni'n gofalu am orielau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ogystal â gwneud projectau gwaith maes a chyhoeddi gwahanol gatalogau ar y casgliadau, erthyglau academaidd a gweithiau mwy poblogaidd. Rydym hefyd yn trefnu rhaglen ddigwyddiadau amrywiol ar gyfer pob oedran a gwahanol lefelau.

Broets o aur Cymru o'r 14eg ganrif, gyda cherrig rhuddem a chameos

Rhagor o wybodaeth a delweddau o'r casgliadau Archaeoleg a Nwmismateg:

Arrow pointing right
Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor.

Gwybodaeth

Yn ystod gwaith cynnal a chadw hanfodol i'r adeilad rhwng 2009–2011 ni fydd yr archifau ar gael.

» Archifau yn Adran Archeoleg a Niwmismateg

digwyddiadau

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales