Rydych chi yn: Hafan > Addysg > Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Dod â dysgu'n fyw!

Addysg yn Amgueddfa Lechi Cymru

Diwydiant llechi Cymru oedd yn 'rhoi to ar y byd' ar un adeg. Heddiw daw Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis â'r hanes yn fyw o flaen ein llygaid. Dyma stori am gymuned a chrefft, streiciau a dioddefaint: hynt a helynt y bobl ynghanol bywyd o galedi.

Mae'r Amgueddfa'n sefyll yng ngweithdai gwreiddiol y chwarel o Oes Fictoria, yng nghysgod mynydd Elidir. Yn y lle hwn bu Chwarel Dinorwig yn cyflogi dros 3,000 o ddynion i dyllu a ffrwydro'r llechfaen.

...mae hi fel petai'r chwarelwyr a'r peirianwyr ond newydd adael eu hoffer a throi am adref...

Ymweliadau Cyffredinol: Ar Gael Drwy'r Flwyddyn

  • Crwydrwch trwy ein rhes o dai chwarelwyr, a ailgodwyd yn yr Amgueddfa, ac a addurnwyd i ddangos y prif gyfnodau hanesyddol.
  • Dewch i gwrdd â'r chwarelwyr wrth eu gwaith yn naddu a hollti'r llechi, a chael cyfle i'w holi.
  • Profwch arogleuon a synau'r ffowndri, yr efail, y gweithdai a'r peiriannau - sy'n dal i redeg ar yr olwyn ddwr fwyaf sy'n dal i weithio ym Mhrydain.
  • Gwyliwch ein ffilm Dwyn y Mynydd sy'n adrodd stori datblygiad y chwarel.

Bwcio

Addysg yn Amgueddfa Lechi Cymru

Gofynnir bod pob ysgol yn bwcio'u hymweliad ymlaen llaw drwy ffonio (01286) 873 717. Amser agor 10.00 am.

Am ragor o wybodaeth neu i drafod eich ymweliad cysylltwch â'r Swyddog Addysg ar (01286) 873 706.

Byddwn ni'n anfon ffurflen gadarnhau a gwybodaeth ynglyn â sut i gynllunio'ch ymweliad.

Cynigir mynediad AM DDIM diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth

Map

Llanberis, Gwynedd
Ar agor 10am-5pm bob dydd (Pasg-Hydref), 10am-4pm Sul-Gwener (Tachwedd-Pasg)

Adran addysg:
(01286) 873717

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd