Rydych chi yn: Hafan > Addysg > Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
English

Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Crwydrwch, ymchwiliwch a darganfyddwch bethau newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!

Dysgu yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Croeso i raglen addysg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae ein holl raglenni'n cyd-fynd â'r cwricwlwm cenedlaethol / cwricwlwm Cymreig ac rydyn ni'n cynnig adnoddau i athrawon ar ein gwefan.

Trefnu ymweliad

I fanteisio i'r eithaf ar eich ymweliad, mae'n hanfodol eich bod chi'n bwcio ymlaen llaw drwy ffonio'r Tîm Dysgu ar (029) 2057 3240.

Mae ystafell ar gael i grwpiau ysgol fwyta'u brechdanau, a gallwch drefnu defnyddio'r ystafell wrth drefnu'ch ymweliad. Cofiwch mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu.

Pan fyddwch chi wedi bwcio'ch ymweliad, byddwn ni'n anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch, ynghyd â nodiadau i athrawon, i helpu i wneud eich ymweliad yn un llwyddiannus. I gael rhagor o wybodaeth am iechyd a diogelwch ar gyfer eich asesiad risg, a gwybodaeth i gynllunio eich ymweliad, gwelwch y golofn i'r dde

Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych chi'n gallu dod, cysylltwch â'r Tîm Dysgu ar unwaith er mwyn i ni gynnig eich lle i ysgol arall.

Canolfan Ddarganfod Clore

Oriel Glanely

Caewyd y'r Oriel Ddarganfod Glanely ar 4 Medi 2009 am waith adnewyddu. Agorwyd fel Canolfan Ddarganfod Clore yn haf 2010 gyda llawer o adnoddau newydd i annog trin a thrafod ac archwilio'r gwrthrychau'n fwy nag erioed o'r blaen.