Anturio wrth ddysgu!

Mae Big Pit yn edrych ar bob agwedd o’r diwydiant glo, o streiciau i drychinebau, o fenywod y cymunedau glofaol i'r plant fu’n gorfod gweithio danddaear yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

  • Teithiwch 90 metr i lawr i grombil y ddaear gyda chyn-lo&wuml;r i glywed hanesion am fywyd yn y pwll o lygad y ffynnon.
  • Cewch ymweld â'r peiriandy a'r stablau ar ben y pwll.
  • Dysgwch am ddulliau mwyngloddio modern yn yr orielau mwyngloddio.
  • Ewch i archwilio'r baddonau pen pwll a straeon y bobl fu’n gweithio yn y diwydiant.

Mae rhaglen gyffrous o ymweliadau a digwyddiadau ar y gweill ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf. O fis Medi ymlaen, cewch gyfuno sesiwn yng nghwmni hwylusydd â thaith danddaear – neu â chyfle i grwydro safle’r hen bwll glo.

Bwciwch ymweliad

Bwciwch ymlaen llaw er mwyn sicrhau eich bod chi’n manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad â Big Pit. Ffoniwch ni ar (01495) 790311.

Mae’r teithiau danddaear yn rhedeg rhwng 10 am - 3.30 pm bob dydd.
Mae’r daith olaf y gellir ei bwcio’n dechrau am 3 pm.
Ni fydd y daith danddaear ar gael ar rai dyddiau ym mis Ionawr oherwydd gwaith cynnal-a-chadw.

Pan fyddwch chi wedi bwcio’ch ymweliad, byddwn ni’n anfon llyfryn Cynllunio’ch Ymweliad a ffurflen gadarnhau atoch chi.

Adnoddau ar y wê

  • Picedi, Plismona a Gwleidyddiaeth
    Pecyn adnoddau a grëwyd i athrawon Ysgolion uwchradd mewn cysylltiad  big pit: amgueddfa lofaol cymru.

  • Plant y Chwyldro
    Adnodd dysgu amlgyfrwng gan Gyngor Dinas Casnewydd ac Amgueddfa Cymru yw Plant y Chwyldro. Ymchwiliad hanesyddol i fywyd a gwaith mewn tref ddiwydiannol newydd (Blaenafon) yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hanfod yr adnodd.

Gwybodaeth

Map

Blaenafon, Torfaen
Ar agor pob dydd 9.30am-5pm. Mynediad olaf 4pm. Teithiau dan ddaear 10am-3.30pm.

Ffôn:
(01495) 790311

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd