Ymweld - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ar agor
Ar agor 10am–5pm bob dydd.
Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
MYNEDIAD AM DDIM
Cyfeiriad
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ffordd Ystumllwynarth
Ardal Forwol
Abertawe SA1 3RD
Ffôn: (029) 2057 3600
Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333
Rydym yn argymell eich bod yn gadael o leiaf 1 awr ar gyfer eich ymweliad.
Dod o hyd i ni
Mae’r Amgueddfa yn Ardal Forwrol Abertawe, pum munud o ganol y ddinas ar droed.
Ar y bws
Mae Gorsaf Fysiau Abertawe yn newid, ond bydd gwasanaeth bysiau yn parhau i ac o ganol y dre. Am y wybodaeth ddiweddaraf, amserlenni bysiau a lleoliadau arosfannau ewch i www.firstgroup.com.
Ar y ffordd
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 tua'r gorllewin neu gyffordd 47 tua’r dwyrain, a dilynwch yr arwyddion brown. Mae’r Amgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth, drws nesaf i LC, sef Canolfan Hamdden Abertawe. Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post SA1 3ST.
Ar y trên
Mae Abertawe ar brif lein Paddington Llundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd i Gaerfyrddin a'r gorllewin, ac i orsafoedd y canolbarth ar lein Calon Cymru.
Parcio
Mae maes parcio talu ac arddangos bellter cerdded o’r Amgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth, a mannau gollwng a chodi ger y fynedfa ar amseroedd prysur.
Codir tâl o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 6.30am a 10.30pm. Mae parcio am ddim ar ddydd Sul.
- Hyd at 2 awr - £2
- Hyd at 3 awr - £3
- Hyd at 4 awr - £4
- Hyd at 5 awr - £5
- Diwrnod llawn- £7 (dim gostyngiad)
Cynigir gostyngiadau i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Prynwch, talwch ac arddangoswch eich tocyn
- Dangoswch un yn ffenestr flaen eich car
- Dangoswch y copi o’r tocyn i’r staff yn siop yr Amgueddfa
- Gostyngiad o 50% ar docynnau o £2 i £5 yn unig
- Nid oes gostyngiad ar docyn £7
- Gellir cynnig ad-daliadau yn ystod oriau agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn unig
Mae mannau parcio wedi'u cadw ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ar East Burrows Place; gellir archebu'r mannau parcio ymlaen llaw drwy ffonio (029) 2057 3600 cyn ymweld.
Parcio bysiau
Mae chwe man parcio bysiau arbennig. Hyd at 2 awr - £2.50. Diwrnod llawn - £5.50
Ymweliad Grwp
Mae’r Amgueddfa mewn lleoliad ardderchog ar gyfer diwrnod allan. Yn ogystal ag ymweld â ni, gallwch fynd i siopa yng nghanol y dre, sydd bum munud i ffwrdd ar droed, neu grwydro’r promenâd a mwynhau golygfeydd bae Caerdydd.
Gall grwpiau sy’n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:
- Fynediad am ddim
- Gostyngiad o 10% yn caffi yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
- Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
- Teithiau tywys am ddim
- Teithiau tu ôl i’r llenni, ar gais
- Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau
Gwelwch ein Llyfryn Ymweliadau Grŵp ynglyn a saith amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.
Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a’r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ragor o fanylion ac i archebu’ch ymweliad ymlaen llaw ffoniwch (029) 2057 3600 neu ebostiwch amgueddfayglannau@amgueddfacymru.ac.uk
Pethau i’w gwneud a’u gweld mewn...
Hanner awr
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gweld ein 5 uchaf, mae pob un wedi’u dangos ar Fap a Chanllaw’r Amgueddfa.
1 awr
Ewch yn syth i fyny’r grisiau i Oriel y Warws a chael cip ar yr arddangosiadau Pobl, Y Môr, Sefydliadau, Cymunedau a Cyflawnwyr cyn croesi’r mezzanine i’r Oriel Newydd lle gallwch chi weld siop rithwir, ffilm gerddoriaeth, replica o’r locomotif stêm cyntaf yn y byd, un o’r esiamplau cynharaf o awyren yn y DU, a wagen lo oedd yn un o brif gludwyr glo stêm yn Ne Cymru.
1 - 2 awr
Cymerwch eich amser yn archwilio’r arddangosfeydd parhaol yn ogystal â mwynhau’r arddangosfeydd dros-dro newidiol yn y Brif Neuadd, Oriel y Wal Goch a’r Golofnres. Gallwch chi gloi’ch ymweliad drwy fwynhau coffi arbennig a crêpe cartref yn y caffi cyn prynu anrheg yn siop.
Diwrnod cyfan
Yn ogystal â threulio amser yn dysgu am ddiwydiant a blaengaredd Cymru dros y 300 mlynedd diwethaf, beth am ymweld hefyd ag Amgueddfa Abertawe – amgueddfa hynaf Cymru – sydd dafliad carreg i ffwrdd, neu ddysgu ffeithiau diddorol am Dylan Thomas, y bardd byd enwog o’r ddinas yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mwynhewch daith ar Masterblaster yn yr LC, ymlacio yn un o’r tai coffi neu fwytai niferus yn y Ardal Forwrol neu fwynhau hufen ia wrth grwydro promenâd Bae Abertawe. Mae canol y dref ochr draw i’r ffordd hefyd, os bydd yr awydd i siopa yn eich taro!