Ymweld - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ar agor
Ar agor 10am–5pm bob dydd.
Mynediad am ddim!
Cyfeiriad
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ffordd Ystumllwynarth
Ardal Forwol
Abertawe SA1 3RD
Ffôn: (01792) 638950
Ebost ni
Ar y ffordd
Mae'r Amgueddfa yn Ardal Forwrol Abertawe, llai na hanner milltir o ganol y ddinas.
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 tua'r gorllewin neu gyffordd 47 tua’r dwyrain, a dilynwch yr arwyddion brown. Mae maes parcio talu ac arddangos mawr yr Amgueddfa dro bach i ffwrdd, ond mae mannau gadael a chasglu teithwyr wrth y fynedfa hefyd.
Ar y trên
Mae Abertawe ar brif lein Paddington Llundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd i Gaerfyrddin a'r gorllewin, ac i orsafoedd y canolbarth ar lein Calon Cymru.
Ar y bws
Mae'r rhan fwyaf o'r bysiau'n aros yng Ngorsaf Fysiau'r Cwadrant yn Abertawe. Gallwch gerdded o'r orsaf i'r Amgueddfa mewn 5 munud.




