Torri Tir Newydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Podiau rhyngweithiol Torri Tir Newydd

Archwiliwch arloesiad Cymreig newydd yn oriel Torri Tir Newydd.

Dewch i weld sut mae Cymru’n gwneud cyfraniad cryf o ran technoleg newydd ym meysydd gwyddoniaeth, cynhyrchu a meddyginiaeth.

Mae’r oriel hon, sy’n seiliedig ar ffilmiau, yn cynnwys pump pod rhyngweithiol sy’n cyflwyno eitemau arloesol a gwrthrychau eiconig, o fyd roboteg, deallusrwydd cyfrifiadurol, technoleg biofeddygol, ailgylchu papur ac ynni cynaliadwy.

Gallwch weithredu dyfais bori i archwilio’r straeon, eu goblygiadau a’r cysylltiad Cymreig, ar sgriniau tu ôl i’r gwrthrych arddangos. Mae cwmnïau Cymreig wedi datblygu dulliau o adeiladu ffyrdd a thai o hen bapurau newydd ac o bweru cadeiriau olwyn a chanolfannau cymunedol am ddim, trwy ffrwyno ynni’r gwynt a’r haul.

Podiau rhyngweithiol Torri Tir Newydd

Mae microsglodynion wedi cael eu cynllunio sy’n gallu gwneud diagnosis ar sail un diferyn o waed ac sy’n achub bywydau ledled y byd. Mae technoleg o Gymru’n mapio moroedd y Ddaear a thirwedd Mawrth, tra bo cyfrifiaduron wedi’u datblygu yma sy’n gallu helpu i atal troseddau neu eich cadw’n heini.

Dewch i weld beth sydd ar y gweill ar gyfer Cymru yn y dyfodol, a lle bydd ein cenedl yn gwneud ei marc ar y byd. Mae ein ffilmiau’n dangos sut gall prifysgolion, busnesau preifat, a chymunedau gydweithio i ddatblygu sgiliau a thechnolegau newydd, nid i helpu eu hunain a Chymru’n unig, ond i arwain y byd.

Gwybodaeth

Map

Abertawe
Ar agor 10am–5pm bob dydd

Ffôn:
(01792) 638950

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales