Teuluoedd National Waterfront Museum

Mae hwyl di-ri a gweithgareddau dychmygus lle gall pob aelod o'r teulu fwynhau a chymryd rhan ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae rhywbeth yno i ddiddori ymwelwyr o bob oed, o weithdai ymarferol, diwrnodau thematig hwyliog, sgrinio ffilmiau a chelf a chrefft. Mae pob gweithgaredd am ddim oni nodir yn wahanol.

Cofiwch gofrestru i dderbyn cylchlythyr ar-lein misol Amgueddfa Cymru sydd yn llawn syniadau ar sut i ddiddanu'r plant.

Digwyddiadau i'r Teulu

Digwyddiadau

Dyddiad DigwyddiadManylion
28 MehPlantos y Glannau18 Mis - 5 oed / Am ddim / Galw heibio
6 a 7 GorCreu Hofrenyddion ac Awyrennau BachTeuluoedd / Am ddim / Galw heibio
10 GorHwyl yr Haf i Blantos0 - 15 oed / Am ddim
13 a 14 GorDyddiau Dawns Pawb / Am ddim
19 GorPlantos y Glannau - Mynd ar Wyliau0 - 5 oed / Am ddim
20 GorGwyddoniaeth Stryd: HedfanOed 7-12 / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333
2528 GorPontydd, Lociau a Thraphontydd DwrPawb / Am ddim / Galw heibio
17 a 18 AwstAdrodd Straeon am AnturiaethauTeuluoedd / Am ddim
17 a 18 AwstGwyddoniaeth Stryd - Cod MorseOed 7-12 / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333
1718 a 2226 AwstChwyrligwgan, Parasiwt neu AwyrenTeuluoedd / Am ddim / Galw heibio
17 a 18 AwstRhoi eich Hun yn y Llun!Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio
18 AwstFfilmiau Misol yn yr Amgueddfa: The Railway Children (U 1970)Teuluoedd / Am ddim
26 AwstFfilm Gŵyl y Banc: Swallows and Amazons (U, 1974)Teuluoedd / Am ddim
30 AwstPlantos y Glannau - Ar y Dŵr0 - 5 oed / Am ddim / Galw heibio
31 Awst a 1 MediPenwythnos Trenau BachTeuluoedd / Am ddim
7 a 8 MediJosef Herman - Pobl a PhastelauTeuluoedd / Am ddim
14 a 15 MediPenwythnos Roald Dahl Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio
14 MediFfilmiau Misol yn yr Amgueddfa: Danny the Champion of the World (U 1989)Teuluoedd / Am ddim
15 MediFfilmiau Misol: Matilda (PG 1996)Teuluoedd / Am ddim
21 MediGwyddoniaeth Stryd - Perisgopau Oed 7-12 / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333
27 MediPlantos y Glannau - Roald Dahl0 - 5 oed / Am ddim / Galw heibio
5 a 6 HydCreu 3 Pheth Cŵl gyda Bandiau RwberTeuluoedd / Am ddim / Galw heibio
12 HydBig Draw - Doodlemania!Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio
19 HydDathlu Mis Hanes Pobl DduonTeuluoedd / Am ddim
26 a 27 Hyd Addurniadau DiwaliTeuluoedd / Am ddim / Galw heibio
27 HydFfilm 3D Hanner Tymor: Hugo (U, 2011)Teuluoedd / Am ddim
28 Hyd3 TachGwyddoniaeth WychTeuluoedd / Am ddim / Galw heibio
31 HydNoson o Arswyd yn yr AmgueddfaTeuluoedd / £2 y person / Rhaid archebu lle. Ffôn: cost safonol (0300) 111 2 333

Caffi'r Glannau

Cymerwch ysbaid o fwrlwm yr Amgueddfa a mwynhau ein danteithion ffres, cawl cartref neu bastai yn y caffi.

Mae Crêperie y Glannau yn atyniad newydd eleni yn cynnig amrywiaeth o galettes blasus a crêpes melys. Mae'r dewis melys yn cynnwys sinamon a chwrens, Nutella a banana, Grand Marnier ac oren yn ogystal â'r lemwn a siwgr poblogaidd.

I rai sy'n well ganddynt fwyd sawrus, mae dewis o gaws Black Bomber a ham, madarch garlleg, sbigoglys, tiwna ac ŷd melys neu Galette y Glannau — cymysgedd o eog wedi'i fygu, shibwns, salad roced, crème fraîche a sleisen ffres o lemwn.

Mae'r caffi yn defnyddio detholiad o gynhwysion lleol a masnach deg ac yn fan perffaith i lenwi'ch boliau ar ôl crwydro'r orielau. Mae ardal chwarae i'r plant hefyd a gallwn ddarparu bocsys bwyd.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Caffi ac ardal bicnic awyr agored
  • Mynediad a pharcio i'r anabl
  • Cadeiriau olwyn ar gael ar gais
  • Toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babi
  • Storfa bygis a loceri cyhoeddus
  • Cyswllt WiFi

Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.