Teuluoedd - National Waterfront Museum
Mae hwyl di-ri a gweithgareddau dychmygus lle gall pob aelod o'r teulu fwynhau a chymryd rhan ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae rhywbeth yno i ddiddori ymwelwyr o bob oed, o weithdai ymarferol, diwrnodau thematig hwyliog, sgrinio ffilmiau a chelf a chrefft. Mae pob gweithgaredd am ddim oni nodir yn wahanol.
Cofiwch gofrestru i dderbyn cylchlythyr ar-lein misol Amgueddfa Cymru sydd yn llawn syniadau ar sut i ddiddanu'r plant.
Digwyddiadau i'r Teulu
Digwyddiadau
| Dyddiad | Digwyddiad | Manylion |
| 28 Meh | Plantos y Glannau | 18 Mis - 5 oed / Am ddim / Galw heibio |
| 6 a 7 Gor | Creu Hofrenyddion ac Awyrennau Bach | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 10 Gor | Hwyl yr Haf i Blantos | 0 - 15 oed / Am ddim |
| 13 a 14 Gor | Dyddiau Dawns | Pawb / Am ddim |
| 19 Gor | Plantos y Glannau - Mynd ar Wyliau | 0 - 5 oed / Am ddim |
| 20 Gor | Gwyddoniaeth Stryd: Hedfan | Oed 7-12 / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333 |
| 25–28 Gor | Pontydd, Lociau a Thraphontydd Dwr | Pawb / Am ddim / Galw heibio |
| 17 a 18 Awst | Adrodd Straeon am Anturiaethau | Teuluoedd / Am ddim |
| 17 a 18 Awst | Gwyddoniaeth Stryd - Cod Morse | Oed 7-12 / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333 |
| 17–18 a 22–26 Awst | Chwyrligwgan, Parasiwt neu Awyren | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 17 a 18 Awst | Rhoi eich Hun yn y Llun! | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 18 Awst | Ffilmiau Misol yn yr Amgueddfa: The Railway Children (U 1970) | Teuluoedd / Am ddim |
| 26 Awst | Ffilm Gŵyl y Banc: Swallows and Amazons (U, 1974) | Teuluoedd / Am ddim |
| 30 Awst | Plantos y Glannau - Ar y Dŵr | 0 - 5 oed / Am ddim / Galw heibio |
| 31 Awst a 1 Medi | Penwythnos Trenau Bach | Teuluoedd / Am ddim |
| 7 a 8 Medi | Josef Herman - Pobl a Phastelau | Teuluoedd / Am ddim |
| 14 a 15 Medi | Penwythnos Roald Dahl | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 14 Medi | Ffilmiau Misol yn yr Amgueddfa: Danny the Champion of the World (U 1989) | Teuluoedd / Am ddim |
| 15 Medi | Ffilmiau Misol: Matilda (PG 1996) | Teuluoedd / Am ddim |
| 21 Medi | Gwyddoniaeth Stryd - Perisgopau | Oed 7-12 / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333 |
| 27 Medi | Plantos y Glannau - Roald Dahl | 0 - 5 oed / Am ddim / Galw heibio |
| 5 a 6 Hyd | Creu 3 Pheth Cŵl gyda Bandiau Rwber | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 12 Hyd | Big Draw - Doodlemania! | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 19 Hyd | Dathlu Mis Hanes Pobl Dduon | Teuluoedd / Am ddim |
| 26 a 27 Hyd | Addurniadau Diwali | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 27 Hyd | Ffilm 3D Hanner Tymor: Hugo (U, 2011) | Teuluoedd / Am ddim |
| 28 Hyd–3 Tach | Gwyddoniaeth Wych | Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio |
| 31 Hyd | Noson o Arswyd yn yr Amgueddfa | Teuluoedd / £2 y person / Rhaid archebu lle. Ffôn: cost safonol (0300) 111 2 333 |
Caffi'r Glannau
Cymerwch ysbaid o fwrlwm yr Amgueddfa a mwynhau ein danteithion ffres, cawl cartref neu bastai yn y caffi.
Mae Crêperie y Glannau yn atyniad newydd eleni yn cynnig amrywiaeth o galettes blasus a crêpes melys. Mae'r dewis melys yn cynnwys sinamon a chwrens, Nutella a banana, Grand Marnier ac oren yn ogystal â'r lemwn a siwgr poblogaidd.
I rai sy'n well ganddynt fwyd sawrus, mae dewis o gaws Black Bomber a ham, madarch garlleg, sbigoglys, tiwna ac ŷd melys neu Galette y Glannau — cymysgedd o eog wedi'i fygu, shibwns, salad roced, crème fraîche a sleisen ffres o lemwn.
Mae'r caffi yn defnyddio detholiad o gynhwysion lleol a masnach deg ac yn fan perffaith i lenwi'ch boliau ar ôl crwydro'r orielau. Mae ardal chwarae i'r plant hefyd a gallwn ddarparu bocsys bwyd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Caffi ac ardal bicnic awyr agored
- Mynediad a pharcio i'r anabl
- Cadeiriau olwyn ar gael ar gais
- Toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babi
- Storfa bygis a loceri cyhoeddus
- Cyswllt WiFi
Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.








