Ymchwilio i dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe - Milltir Euraid

Mae gan Gymru le i hawlio taw hi oedd cenedl ddiwydiannol gynta'r byd. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd de Cymru'n benodol wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel canolfan ar gyfer diwydiannau trwm, cynhyrchu glo a'r fasnach forwrol. Gadawodd y crynhoad hwn o ddiwydiant ac arloesedd etifeddiaeth gref o adnoddau mewn print, ac archifau y gellir eu defnyddio ar gyfer pob math o waith ymchwil hanesyddol, economaidd a diwylliannol.
Mae chwe llyfrgell ac archif ymchwil pwysig yn Abertawe. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn creu un o'r cyfleusterau ymchwil gorau un o ran treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o'r rhain o fewn milltir i'w gilydd yn ardal forwrol hanesyddol Abertawe. Mae'r tudalennau hyn yn rhoi amlinelliad cryno o gryfderau allweddol pob un o'r sefydliadau.
Sefydliadau
Am fwy o wybodaeth am ddarganfod beth sydd gan Abertawe i'w gynnig ewch i...
- Gwefan - www.swansea.gov.uk/industrialswansea
- Blog - www.swansea-events.co.uk
- Twitter Corfforaethol - www.twitter.com/swanseacouncil
- Twitter Diwylliant a Twristiaeth - www.twitter.com/my_swansea







