Yr Oriel Newydd, Y Golofnfa a Gardd yr Iard
[delwedd: Oriel Newydd - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]
Mae’r Oriel Newydd yn arddangos rhai o wrthrychau diwydiannol rhyfeddol yr Amgueddfa yn cynnwys injan stêm, awyren Robin Goch o 1907 a wagen lo. Mae’r lleoliad gwahanol hwn yn destun sgwrs gwych ar gyfer derbyniad min nos. Gyda digonedd o olau naturiol a mynediad hawdd i Ardd yr Iard, mae’r Golofnfa yn ddewis gwych arall ar gyfer diodydd a rhwydweithio cyn cinio.
[delwedd: Gardd y iard - Amgueddfa Genelaethol y Glannau]
Mae Gardd yr Iard yn ofod hyblyg sy’n berffaith ar gyfer partïon gardd gyda digon o le i babell fawr – delfrydol ar gyfer cinio ffurfiol, sioe fasnach neu wledd briodas – cysylltwch â ni am bris.
| Sefyll: 200+ gwestai | Ar gael wedi 4pm yn ddyddiol; mae Gardd yr Iard ar gael yn ystod y dydd hefyd | Prisiau o £350-500 + TAW |