Uchafbwyntiau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Prif neuadd
Oriel

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

Dewch i weld ein cyfoeth diwydiannol a morwrol mewn cyfuniad o arddangosfeydd rhyngweithiol ac arloesol, law yn llaw a rhai mwy traddodiadol. Dyma gyfle i ymwelwyr gael profiad ymarferol, heb ei ail, yn ein hamgueddfa genedlaethol ddiweddaraf.

Cafodd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru effaith aruthrol ar Bobl, Cymunedau a Bywydau, heb sôn am weddill y byd. Byddwch yn ail-fyw hanes mewn cyfuniad cyffrous o’r hen a’r newydd yng nghanol datblygiadau diweddaraf ardal forwrol y ddinas.

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gartref gwefreiddiol, sef hen warws rhestredig sy’n cysylltu ag adeilad newydd sbon o lechi a gwydr. Yma gallwch ddarganfod y Drafnidiaeth, Deunyddiau a Rhwydweithiau oedd yn mor bwysig, a’r ‘pethau mawr’ sydd wedi cyfrannu gymaint tuag at hanes diwydiannol ein cenedl. Wedyn edrychwch mewn i’r dyfodol yn yr oriel Torri Tir Newydd.

Chi biau’r dewis yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cewch brofi’r holl arddangosfeydd ac arddangosiadau a phori drwy’r wybodaeth fel y mynnoch. Dewch i ymgolli yn hanes cyfoethog a chyfareddol diwydiant ac arloesi yng Nghymru, lle mae technoleg newydd yn cyflwyno’r gorffennol ar flaen eich bysedd.

Gweld ein Digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yr adeilad

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Adeilad godidog sy'n cyfuno pensaernïaeth hen a newydd yw cartref yr Amgueddfa. Mae adeilad rhestredig Gradd II yr hen warws (a cartref Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe gynt), a adeiladwyd ym 1902, yn cyferbynnu â'r adeilad gwydr a llechi modern a thrawiadol a gynlluniwyd gan y penseiri Wilkinson Eyre, sydd wedi ennill Gwobr Stirling.

Agorwyd yr adeilad £35 miliwn hwn yn 2005, a dyma un o brojectau mwyaf uchelgeisiol Amgueddfa Cymru. Fe'i datblygwyd ar y cyd â Chyngor Dinas a Sir Abertawe, a chafwyd grant o £11 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi derbyn sawl anrhydedd, gan gynnwys y project adfywio gorau wedi'i seilio ar ddylunio gan UK Regeneration Awards, a gwobrau gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a'r Ymddiriedolaeth Ddinesig.

Gwybodaeth

Map

Abertawe
Ar agor 10am–5pm bob dydd

Ffôn:
(01792) 638950

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales