Tocynnau Glofa
Mae tocynnau lamp yn wrthrychau hynod boblogaidd o'r diwydiant glo a cant eu casglu gan amgueddfeydd a'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddent yn fodd i reolwyr glofeydd gadw cofnod o bwy oedd wrth eu gwaith, ond roedden nhw'n hanfodol pan fyddai'n rhaid i'r gwasanaethau brys wybod faint yn union o ddynion oedd danddaear wedi tân neu ffrwydrad. Daeth systemau tocynnau yn gyffredin yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn dod yn orfodol ym 1913 wedi diwygio Deddf Pyllau Glo 1911.
[delwedd: Tocyn lamp 523 o Glofa Groesfaen]
Tocyn lamp 523 o Glofa Groesfaen
Byddai'r systemau cynnar fel arfer yn defnyddio un tocyn ar gyfer pob gweithiwr danddaear a byddai'r glöwr yn mynd â'r tocyn adref ar ddiwedd y sifft. Cai'r tocyn ei roi i'r ceidwad lampau ar ddechrau'r sifft yn gyfnewid am lamp ddiogelwch ag arni'r un rhif â'r tocyn. Ar ddiwedd y sifft byddai'r glöwr yn dychwelyd ei lamp ac yn casglu'r tocyn gan y ceidwad neu o 'fwrdd tocynnau'.Byddai tocynnau'n amrywio rhwng meysydd glo ac yn newid dros amser, ond erbyn diwedd y 1970au system ddiogelwch dri thocyn oedd yn gyffredin. Byddai pob gweithiwr danddaear yn derbyn tri thocyn fyddai'n aml o siâp a maint gwahanol; cai un ei adael yn yr ystafell lampau, un ei roi i'r bancwr ar ben y siafft ac un ei gadw gyda'r gweithiwr drwy'r sifft.
Cai rhif ei stampio ar y tocynnau yn ogystal ag enw'r pwll neu'r cwmni mwyngloddio. Wedi gwladoli'r diwydiant 'Bwrdd Glo Cenedlaethol' fyddai'n cael ei stampio ar y tocynnau yn ogystal â'r rhanbarth benodol. Tocynnau pres gai eu defnyddio fel arfer, ond roedd tocynnau sinc, alwminiwm, Bakelite a phlastig ar gael. Byddai siapau'r tocynnau yn amrywio hefyd, o sgwariau, cylchoedd a hirgrynion i hecsagonau ac octagonau. Erbyn diwedd y 1990au roedd cardiau adnabod plastig yn cymryd lle'r tocynnau lamp.
[delwedd: Disg blastig goch Achub Glofaol]
Disg blastig goch Achub Glofaol.
Defnyddiai'r Gwasanaeth Achub Glofaol system debyg yn ystod argyfyngau, system debyg i'r system dri thocyn ond un a sefydlwyd yn gynharach. Byddai disg blastig goch yn cael ei gadael yn yr ystafell lampau, disg blastig gyda'r banciwr a disg gopr yn cael ei gwisgo o amgylch y gwddf tra bod y gweithiwr achub danddaear.Defnyddiwyd tocynnau eraill yn y diwydiant glo hefyd – ar gyfer ffrwydron, ffreuturau, baddondai pen pwll, bysiau a threnau. Byddai'r undebau llafur glofaol hefyd yn defnyddio tocynnau i ddangos bod aelod wedi talu ei dâl aelodaeth. Byddai sefydliadau glowyr a thafarndai lleol hefyd yn cynhyrchu tocynnau cwrw ar achlysuron arbennig.
Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu dros fil o esiamplau o docynnau glofaol. Caiff rhai eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru a gellir gweld esiamplau drwy glicio ar y ddolen Delweddau Diwydiant ar hafan Rhagor.
Erthygl gan:Ceri Thompson, Curadur, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Tocynnau


Dyddiad yr erthygl: 30 Ionawr 2013
0 sylw
Gadael sylw