Tocynnau Glofa
Mae tocynnau lamp yn wrthrychau hynod boblogaidd o'r diwydiant glo a cant eu casglu gan amgueddfeydd a'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddent yn fodd i reolwyr glofeydd gadw cofnod o bwy oedd wrth eu gwaith, ond roedden nhw'n hanfodol pan fyddai'n rhaid i'r gwasanaethau brys wybod faint yn union o ddynion oedd danddaear wedi tân neu ffrwydrad. Daeth systemau tocynnau yn gyffredin yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn dod yn orfodol ym 1913 wedi diwygio Deddf Pyllau Glo 1911.

Byddai tocynnau'n amrywio rhwng meysydd glo ac yn newid dros amser, ond erbyn diwedd y 1970au system ddiogelwch dri thocyn oedd yn gyffredin. Byddai pob gweithiwr danddaear yn derbyn tri thocyn fyddai'n aml o siâp a maint gwahanol; cai un ei adael yn yr ystafell lampau, un ei roi i'r bancwr ar ben y siafft ac un ei gadw gyda'r gweithiwr drwy'r sifft.
Cai rhif ei stampio ar y tocynnau yn ogystal ag enw'r pwll neu'r cwmni mwyngloddio. Wedi gwladoli'r diwydiant 'Bwrdd Glo Cenedlaethol' fyddai'n cael ei stampio ar y tocynnau yn ogystal â'r rhanbarth benodol. Tocynnau pres gai eu defnyddio fel arfer, ond roedd tocynnau sinc, alwminiwm, Bakelite a phlastig ar gael. Byddai siapau'r tocynnau yn amrywio hefyd, o sgwariau, cylchoedd a hirgrynion i hecsagonau ac octagonau. Erbyn diwedd y 1990au roedd cardiau adnabod plastig yn cymryd lle'r tocynnau lamp.

Defnyddiwyd tocynnau eraill yn y diwydiant glo hefyd – ar gyfer ffrwydron, ffreuturau, baddondai pen pwll, bysiau a threnau. Byddai'r undebau llafur glofaol hefyd yn defnyddio tocynnau i ddangos bod aelod wedi talu ei dâl aelodaeth. Byddai sefydliadau glowyr a thafarndai lleol hefyd yn cynhyrchu tocynnau cwrw ar achlysuron arbennig.
Mae Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru wedi casglu dros fil o esiamplau o docynnau glofaol. Caiff rhai eu harddangos yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru a gellir gweld esiamplau drwy glicio ar y ddolen Delweddau Diwydiant ar hafan Rhagor.
Erthygl gan:Ceri Thompson, Curadur, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Tocynnau


Dyddiad yr erthygl: 30 Ionawr 2013





Gadael sylw