Seremoni'r Cadeirio, Casnewydd, 2004
Darn o seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 2004. Dr Huw Meirion Edwards o Landre, Aberystwyth enillodd y Gadair am gerdd gaeth ar y testun 'Tir Neb'. Yr Archdderwydd oedd Robyn Llŷn a'r Arwyddfardd oedd Dyfrig ab Ifor. Gwnaethpwyd y Gadair gan Bob Davies.







